'Merch wedi ei chloi mewn ystafell ymolchi'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar y gweill wedi honiadau bod merch awtistig 12 oed wedi ei chloi mewn ystafell ymolchi gyda'r nos mewn ysgol breswyl arbennig.
Mae Catrin Barnett o Fodedern ar Ynys M么n yn ddisgybl yn ysgol Kinsale yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.
Ysgol breswyl breifat yw hon i blant sydd ag awtistiaeth.
Fis diwetha' honwyd bod Catrin wedi ei symud o'i hystafell yn yr ysgol a'i chloi mewn ystafell ymolchi i fyny'r coridor.
Oherwydd ei chyflwr - dydi'r ferch 12 oed ddim yn gallu siarad - mae'i thad yn teimlo nad yw e wedi cael digon o wybodaeth am y sefyllfa.
Adroddiad da
Dywedodd John Barnett: "Rwy'n ddig iawn na chefais wybod, ac am fy mod wedi cael fy nghadw yn y tywyllwch gyhyd.
"Mae'n ymddangos bod Catrin yn iawn ond gan nad yw'n gallu siarad, mae'n anodd dweud."
Cwmni o'r enw Options Group sy'n gyfrifol am Ysgol Kinsale ac mae llefarydd wedi dweud bod dau aelod o staff wedi cael eu gwahardd o'u gwaith.
Ond pwysleisiodd llefarydd fod yr ysgol wedi cael adroddiad da iawn gan Estyn yn ddiweddar.
Rhannu gwybodaeth
Dywedodd yr NSPCC eu bod yn ymwybodol o'r honiadau ac maen nhw wedi rhannu'r wybodaeth sydd ganddyn nhw 芒'r awdurdodau priodol.
Dydyn nhw ddim yn gallu gwneud sylw pellach oherwydd hynny.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys M么n, Richard Parry Jones: "Rydym yn ystyried yr honiadau yn rhai difrifol iawn.
"Gwarchod plant Ynys M么n yw ein prif flaenoriaeth bob amser.
'Adolygiad mewnol'
"Rydym yn cydweithio'n agos gyda Chyngor Sir y Fflint ac yn hapus bod ymchwiliad trylwyr i'r digwyddiad honedig yn mynd yn ei flaen.
"Hoffwn ymddiheuro i Mr Barnett am na chafodd glywed am yr honiadau yn syth.
Byddwn yn cynnal adolygiad mewnol ein hunain i'r gweithdrefnau yn yr achos hwn ac rydym wedi hysbysu'r awdurdodau perthnasol."
Mae 91热爆 Cymru wedi cysylltu gyda Chyngor Sir y Fflint i ofyn iddyn nhw am eu hymateb.