Manning: Ceisio gohirio llys milwrol
- Cyhoeddwyd
Gallai'r chwilio trwyadl am gofnodion i asesu effaith datgelu cyfrinachau ohirio'r achos llys milwrol yn erbyn cyn filwr yn America.
Mae Bradley Manning, a gafodd ei fagu yn Sir Benfro, yn wynebu cyhuddiadau o gynorthwyo Al Qaeda drwy ddatgelu cannoedd o filoedd o ddogfennau cyfrinachol a gafodd eu cyhoeddi ar wefan Wikileaks.
Mae'r amddiffyn wedi cyhuddo'r erlyniad o guddio tystiolaeth allai fod yn ffafriol i Manning, ac mae'r barnwr - y Cyrnol Denise Lind - wedi awgrymu y bydd yn ystyried cais ei gyfreithwyr i ohirio'r achos.
Mae'r achos i fod i ddechrau ar Fedi 21, ond mae cyfreithwyr Manning yn gwneud cais i ddiddymu 10 o'r 22 o gyhuddiadau y mae'n eu hwynebu.
9,000 tudalen
Mewn gwrandawiad rhagarweiniol, mae'r trafodaethau wedi canolbwyntio ar asesiad effaith gan yr FBI y soniwyd amdano am y tro cyntaf ar Fai 31.
Dywedodd y prif erlynydd, yr Uwch-gapten Ashden Fein, eu bod eisoes wedi rhoi bron 9,000 o dudalennau o gofnodion yr FBI i'r amddiffyniad.
Brynhawn Mercher, bu'r Cyrnol Lind yn holi Fein os oedd ei d卯m yn cyflawni eu cyfrifoldebau o ddatgelu unrhyw dystiolaeth fyddai'n cynorthwyo t卯m cyfreithiol Bradley Manning.
Mae ei gyfreithwyr wedi bod yn brwydro am fisoedd i gael gweld cannoedd o filoedd o dudalennau o dystiolaeth y maen nhw'n honni allai fod yn ffafriol i Manning.
Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau yn honni bod dogfennau a ryddhawyd gan Manning wedi peryglu bywydau a diogelwch staff.
Dywed cefnogwyr y cyn filwr fod rhyddhau'r dogfennau wedi datgelu troseddau rhyfel ac wedi sbarduno gwrthdystiadau dros ddemocratiaeth yn y Dwyrain Canol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012