91热爆

Grantiau i ddarpar athrawon yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Education Minister Leighton AndrewsFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai'r grantiau'n gymorth i ddenu'r myfyrwyr gorau

Bydd grantiau newydd yn cael eu cynnig i ddarpar athrawon gyda Llywodraeth Cymru yn dweud mai'r flaenoriaeth yw annog mwy i weithio mewn colegau addysg bellach.

Bydd grantiau o hyd at 拢3,000 yn cael eu cynnig ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13.

Mae'r grant ymarfer dysgu cychwynnol (ITT) ar gyfer myfyrwyr ar gyrsiau 么l-radd addysg bellach.

Ni fydd y grantiau ar gael i bobl sydd am ddysgu mewn ysgolion a gynhelir 芒 grant.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai'r grantiau ar gael er mwyn "targedu ein blaenoriaethau recriwtio gan gynnwys cefnogaeth i ddysgu llythrennedd a rhifedd tra'n cydnabod pwysigrwydd recriwtio athrawon o safon ar draws pob pwnc yn y sectorau sgiliau ac addysg bellach".

Denu'r goreuon

Ychwanegodd: "Bydd yr anogaeth yma yn help i ddenu'r myfyrwyr gorau i hyfforddi fel athrawon addysg bellach yng Nghymru, ac yn cefnogi darparwyr ITT yng Nghymru i gystadlu'n effeithiol am yr ymgeiswyr mwyaf talentog."

Roedd undeb yr ATL yn croesawu'r grantiau, a dywedodd David Hytch o gangen Gogledd Cymru bod unrhyw arian ychwanegol yn fendith.

"I fod yn deg i'r gweinidog, mae wedi ceisio rhoi'r arian i gyd-fynd 芒'r rhethreg gydag arian wedi ei dargedu."

Bydd grant o 拢1,000 i bob myfyriwr cymwys ar draws pob pwnc heblaw am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), ac fe fydd y grant uwch o 拢3,000 ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n hyfforddi i ddysgu pynciau STEM.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol