Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diwrnod gwerin yn dychwelyd i Eisteddfod Llangollen
Bydd diwrnod o gerddoriaeth, dawns a ch芒n Geltaidd yn rhan o raglen Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen eleni.
Bydd y canwr a darlledwr Frank Hennessy a'r gr诺p Gwyddeleg Ioscaid ymhlith y rhai bydd yn perfformio.
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr eisteddfod: "Dwi'n meddwl bod adfywiad mewn cerddoriaeth gwerin wedi digwydd yn ddiweddar ac rydym yn gweld cynnydd yn ei boblogrwydd ymhlith cynulleidfaoedd newydd ac ifancach yn arbennig.
"Dwi'n meddwl bod hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth gwerin yn parhau i fod yn rhan o'n treftadaeth ond hefyd yn dangos ei fod yn gallu addasu a denu dilynwyr newydd."
Bydd artistiaid Cymreig yn cynnwys Si么n Russell Jones, cerddorfa gwerin Calan a'r gr诺p Adran D.
Ymhlith y perfformiadau eraill bydd gr诺p o Gernyw, Rum and Shrub Shantymen, yn canu canueon traddodiadol a siantis m么r.
Yn ogystal 芒 pherfformiadau ar brif lwyfan allanol maes yr eisteddfod bydd yna hefyd gyngerdd yng ngorsaf rheilffordd Llangollen.
Bydd hefyd llwyfan 'meic agored' lle fydd cyfle i berfformwyr lleol ddiddanu'r gynulleidfa.
Mae Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen 2012 yn dechrau ar Orffennaf 3.