Trefnwyr Llangollen yn fodlon iawn ar werthiant tocynnau 2012
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn fodlon iawn gyda'r sefyllfa ariannol a hynny 100 niwrnod cyn i'r 诺yl ddechrau ar Orffennaf 3 2012.
Mae 50% o'r tocynnau targed wedi eu gwerthu.
Dywed y trefnwyr mai nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar 么l ar gyfer Cyngerdd Alfie Boe tra bod cynnig arbennig ar gyfer Cyngerdd Karl Jenkins.
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen, iddo roi cyfres o dargedau heriol i'w hun wrth gychwyn ar ei waith.
"Dwi'n gobeithio fod y cyngherddau eleni yn destament o'r weledigaeth glir sydd gen i ar gyfer yr 诺yl unigryw yma.
"Dwi'n hapus iawn ein bod wedi rhagori ar ein disgwyliadau o ran gwerthiant tocynnau.
"Ond dim ond un elfen ydy'r cyngherddau o'r hyn mae'r 糯yl yn ei gynnig."
Dywedodd bod y cystadlaethau dyddiol yn y pafiliwn 芒'r gweithgareddau sydd ar y maes "yn rhoi gwledd ar gyfer yr holl synhwyrau ac yn arddangos talent ein cystadleuwyr ar draws y byd".
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru "wrth eu bodd" gyda syniadau "cyffrous a chreadigol" yr Eisteddfod.
"Mae Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn un o drysorau prin y genedl ac yn ddyddiad allweddol yn y calendr celfyddydol," meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.
"Mae'n bwysig iawn i dref Llangollen yn economaidd a'r economi twristiaeth ehangach wrth ddod a miloedd o ymwelwyr lleol a rhyngwladol i'r ardal bob blwyddyn.
"Mae'r cyllid mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ei ddarparu ar gyfer yr 诺yl yn gwobrwyo syniadau creadigol uchelgeisiol a dw i wrth fy modd i weld ystod eang o syniadau creadigol cyffrous."
Y cynnig arbennig ar gyfer cyngerdd Karl Jenkins "The Peacemakers" gyda Valentina Naforita, Steffan Morris a ch么r mawr 300 o leisiau ar Orffennaf 6 a'r gyngerdd Finale gyda Wynne Evans, John Owen Jones, Mark Llewelyn Evans, Fflur Wyn a Ch么r CF1 ar Orffennaf 8 yw cael parcio am ddim wrth ffonio a dyfynnu "100 DIWRNOD" wrth brynnu'r tocynnau.