91热爆

Cwest swyddog MI6: Plismones yn s么n am 'rywun arall'

  • Cyhoeddwyd
Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, Metropolitan Police
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Williams: Er gwaethaf archwiliad post mortem ni chafodd achos marwolaeth ei gadarnhau.

Mae plismones wedi dweud wrth gwest ei bod hi'n amau a oedd yn bosib i swyddog MI6 gloi ei hun yn y bag lle daethpwyd o hyd i'w gorff.

Cafodd corff noeth Gareth Williams, 31 oed o Ynys M么n, ei ddarganfod wedi'i gloi mewn bag chwaraeon yn ei fflat yn Pimlico ar Awst 23, 2010 ond er gwaethaf archwiliad post mortem ni chafodd achos marwolaeth ei gadarnhau.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jackie Sebire, sy'n arwain yr ymchwiliad i'w farwolaeth, ei bod yn meddwl bod rhywun arall yn gysylltiedig 芒'r farwolaeth neu wrth ddodi'r corff yn y bag.

Clywodd y cwest fod olion DNA "nad oedd modd eu hesbonio" ar y bag dan sylw.

"Mae'r ffaith fod DNA wedi ei ddarganfod yn golygu bod angen gwneud mwy o waith," meddai'r ditectif.

Yn fuan ar 么l i'r cwest ymgynnull ddydd Mawrth fe gerddodd mam Mr Williams, Ellen Williams, allan, arwydd o alar y teulu bron dwy flynedd ers y farwolaeth, meddai bargyfreithiwr y teulu, Anthony O'Toole.

Gwrthod cais

Roedd Mrs Williams yn anhapus ac yn rhwystredig oherwydd dadleuon cyfreithiol.

Bu oedi o tua hanner awr wrth i'r crwner, Dr Fiona Wilcox, wrthod cais y cyfryngau i ganiat谩u i artist fraslunio.

Dywedodd y blismones fod fflat Mr Williams yn dwt, fod wigiau a cholur merched yno a dillad ac esgidiau merched drud, gwerth 拢20,000.

Clywodd y cwest fod allweddi cloeon y bag y tu mewn iddo o dan gorff y dyn 31 oed.

Esboniodd y blismones nad oedd arwydd o neb yn ceisio crafangu tu mewn i'r bag.

Yn y prynhawn clywodd y cwest dystiolaeth ffrind Mr Williams ers ysgol gynradd, y dylunydd ffasiwn Sian Lloyd Jones.

"Mi oedd o wir yn berson mor hael. Fyddwn i ddim yn synnu os mai anrhegion oeddan nhw (y dillad merched) ... dwi'n meddwl mai dillad ar gyfer ei chwaer oeddan nhw."

Ynghynt cafodd lluniau cylch cyfyng o Mr Williams eu dangos.

Yn 么l y blismones, doedd neb yn ei ddilyn yn y lluniau yng nghanol Llundain ar Awst 15, 2010.

Eglurodd y blismones fod disgwyl Mr Williams yn 么l yn ei waith ar Awst 16, ddiwrnod ar 么l dyddiad y lluniau teledu cylch-cyfyng olaf.

Wnaeth neb gysylltu gyda'r heddlu tan Awst 23, meddai, y diwrnod y cafodd y corff ei ganfod.

Roedd amheuaeth ar un adeg bod y gwasanaethau cudd wedi symud tystiolaeth ar 么l i gorff Mr Williams gael ei ganfod.

Dywedodd hi nad oedd neb yn cael mynd i mewn i'r fflat heb ei chaniat芒d hi.

"Hyd eithaf fy ngwybodaeth, dwi'n sicr na wnaeth neb arall fynd i mewn yno ar 么l Awst 23," meddai.

Eglurodd bod ditectifs gwrthderfysgaeth wedi bod yn bresennol am eu bod nhw yn delio gydag achosion yn ymwneud 芒 swyddogion cudd.

"Ond doedd SO15 ddim yn gyfrifol am yr ymchwiliad.

"Ar y pryd, doedd na ddim digwyddiad terfysgol na dim fyddai'n golygu bod SO15 yn cael blaenoriaeth," meddai.

Siopau moethus

Clywodd y cwest fod Mr Williams wedi bod mewn cynhadledd yn America oherwydd ei waith ac wedi aros yno am ychydig o wyliau.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Gareth Williams ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng am 3.05pm ar Awst 16 2010

"Doedd hyn ddim yn anarferol, fe fyddai'n gwneud hyn yn achlysurol," meddai Ms Sebire.

Eglurodd iddo ddychwelyd i Faes Awyr Gatwick ar Awst 11 a bod y lluniau teledu cylch cyfyng yn ei ddangos yn siopa yn ardal West End Llundain yr un diwrnod, gan gynnwys mynd i mewn i siop Selfridges.

Y diwrnod canlynol roedd yn siopa yn Harvey Nichols a Harrods.

Clywodd y cwest fod llygad-dyst wedi ei weld yn mynd i'r swyddfa yn Llundain ar Awst 12 ond mae'n debyg ei fod yn mynd 芒 dogfennau yno.

Ar Awst 13 cafodd ei weld yn mynychu sioe mewn bwyty a chlwb comedi ar ei ben ei hun yn Bethnal Green ac ymweld ag ardal Holland Park a siop Fortnum and Mason ar Awst 14.

Mae'r lluniau olaf ohono ar Awst 15 yn ei ddangos mewn crys-T coch a throwsus golau yn ymweld 芒 sawl lle, gan gynnwys Harrods.

Mae'r llun olaf yn ei ddangos yn troi i mewn i Alderney Street lle'r oedd ei fflat, am 3.05pm.

Cafodd y cwest weld fideo'r heddlu o'r fflat pan aethon nhw yno ar Awst 23.

'Anghyson'

Ar y bwrdd yr oedd nodyn un o gyd-weithwyr MI5 yn gofyn am ail-drefnu apwyntiad i weld fflat - oedd yn awgrymu na wnaeth Mr Williams ateb y drws am 7.30pm ar Awst 16.

Roedd 'na doriad papur newydd yr Observer am y pum peth y mae pobl yn eu difaru fwya cyn marw gan gynnwys, "dwi''n difaru nad oeddwn i'n ddigon dewr i fyw bywyd yn fwy triw i fy hun".

Yn yr ystafell wely roedd dillad wedi eu plygu ar y gwely ond y gorchudd gwely ar y llawr.

Dywedodd y crwner fod hyn yn "anghyson" mewn fflat mor daclus.

Mae disgwyl i'r cwest bara am wyth niwrnod.