91热爆

Cwest: Swyddog yn 'ofalus' wrth adael pobl i mewn i'w fflat

  • Cyhoeddwyd
Fflat Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y fflat lle oedd yn byw yn Llundain

Mae cwest i farwolaeth cyn-swyddog gwasanaeth cudd MI6 wedi clywed ei fod yn "ofalus" wrth adael pobl i mewn i'w fflat.

Bu farw Gareth Williams, 31 oed o Ynys M么n, mewn amgylchiadau amheus yn ei fflat yn Llundain ym mis Awst 2010.

Cafwyd hyd i'w gorff noeth wedi ei gloi mewn bag chwaraeon yn y bath yn ei fflat yn Pimlico ar Awst 23 2010.

Dywedodd ei chwaer, Ceri Stubbe, mewn datganiad ei fod yn "asesu risg yn drylwyr" ac mai dim ond y teulu oedd ag allweddi i'r fflat.

Ni fyddai wedi gadael rhywun amheus i mewn i'r fflat, meddai.

Mae disgwyl i'r cwest ystyried a oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig 芒 marwolaeth Mr Williams.

'Niweidio'

Dywedodd Ms Subbe nad oedd ei brawd wedi dweud bod rhywun yn ei ddilyn na chwaith fod rhywun wedi ei fygwth.

"Does gen i ddim syniad pam yr oedd rhywun am ei niweidio," meddai.

Honnodd hi fod MI6 wedi "llusgo eu traed" wrth ddelio 芒 chais ei brawd i fynd yn 么l i GCHQ yn Cheltenham.

Roedd Mr Williams wedi bod yn arbenigwr codau yno ers 2001 cyn cael secondiad i MI6 yn 2009.

Dywedodd Ms Subbe fod ei brawd am i'w secondiad ddod i ben yn gynt.

Ffynhonnell y llun, Metropolitan Police
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd corff y dyn 31 oed wedi ei gloi mewn bag chwaraeon yn y bath

Roedd Mr Williams yn "yn fwy anhapus" yn Llundain, meddai, ac roedd wedi cyfeirio at "anghydfod" adran yn MI6.

Clywodd y cwest ei fod wedi gwneud cais i ddychwelyd i GCHQ ar Fedi 1, 2010.

Mae'r heddlu yn credu iddo farw yn oriau m芒n bore Mawrth, Awst 16.

Cyhoeddus

Ynghynt penderfynodd y crwner, Dr Fiona Wilcox, y byddai tystiolaeth yn cael ei chlywed yn gyhoeddus.

Ond dywedodd y byddai rhywfaint o wybodaeth sensitif yn cael ei atal oherwydd "gwir berygl" i ddiogelwch a budd y cyhoedd.

Dywedodd y crwner na fyddai unrhyw dystiolaeth yn cael ei chlywed y tu 么l i ddrysau cae毛dig ond y byddai swyddogion y gwasanaeth cudd yn rhoi tystiolaeth yn ddienw y tu cefn i sgrin.

Fe fydd 37 o dystion, gan gynnwys cydweithwyr Mr Williams yn MI6 a GCHQ, y ganolfan glustfeinio yn Cheltenham, arbenigwyr tocsicoleg ac arbenigwyr bagiau.

Ar ran tri o ddarlledwyr a phum papur newydd fe wnaeth y bargyfreithiwr Caoilfhionn Gallagher gais am ryddhau lluniau, fideos a dogfennau gaiff eu defnyddio yn y llys.

Ond dywedodd cyfreithiwr ar ran Heddlu Llundain, Vincent Williams, fod 'na "ymchwiliad cymhleth" yn cael ei gynnal i farwolaeth Mr Williams a bod "gwir bosibilrwydd" o erlyniad troseddol.

Dywedodd fod rhaid cael cydbwysedd rhwng "cyfiawnder agored" yn y cwest ac ymchwiliad troseddol.

"Mae hyn oherwydd y gallai achos troseddol fod yn ddiweddarach a bod y Comisiynydd yn teimlo bod rhaid bod yn ofalus."

'Safon'

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tu mewn i'r fflat yn Llundain

Nododd Ms Gallagher fod "safon uchel" yn gyfreithiol o ran adroddiadau cyfoes am y cwest.

Awgrymodd Dr Wilcox y dylai cyfreithwyr gytuno cyfaddawd y tu allan i'r llys.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran teulu Mr Williams eu bod yn gwrthwynebu rhyddhau tystiolaeth fideo o'r ymdrech i geisio ail-greu sut y byddai wedi mynd i mewn i'r bath.

Cafodd radd dosbarth cyntaf ym Mathemateg ym Mhrifysgol Bangor yn 17 oed ar 么l astudio ar gyfer ei radd tra'n ddisgybl ysgol.

Er gwaethaf archwiliadau post mortem ni chafodd achos ei farwolaeth ei gadarnhau.

Mae disgwyl i'r cwest bara am wyth niwrnod.