91热爆

Gorsaf radio 'yn rhoi blaenoriaeth i'r iaith' ar yr oriau brig

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radioFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr orsaf yn 'chwilio am ddulliau arloesol o ariannu ...'

Bydd gorsaf radio gymunedol yn y gorllewin yn rhoi pwyslais ar ddarlledu yn y Gymraeg.

Cyhoeddodd Ofcom, y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant darlledu, eu bod wedi cymeradwyo cais Beca ar gyfer trwydded darlledu yn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion.

Yn eu cais dywedodd y cwmni eu bod am ddarlledu yn y ddwy iaith gyda'r Gymraeg ar yr oriau brig.

Dywedodd Geraint Davies, Cadeirydd Beca, eu bod yn gobeithio dechrau darlledu ymhen dwy flynedd.

Roedd Beca wedi dweud nad oedd gorsafoedd masnachol yn yr ardal "yn rhoi gwasanaeth teilwng i siaradwyr Cymraeg yn y gorllewin.

Mae tair gorsaf radio fasnachol eisoes yn y gorllewin, Radio Ceredigion, Radio Sir G芒r a Radio Sir Benfro.

Dyw'r drwydded newydd ddim yn effeithio ar eu statws.

"Fe fyddwn ni fel cwmni'n chwilio am ddulliau arloesol o ariannu'r math yma o wasanaeth," meddai Mr Davies.

'Doniau'

"Fe allai hynny gynnwys buddsoddiadau, cyfraniadau a chyfranddaliadau. Rhaid sicrhau bod yna sail gadarn i'r gwasanaeth.

"Mae'n bwysig ein bod ni yn cynnwys doniau lleol ac yn elwa ar y cyfoeth o ddoniau sydd yn y tair ardal dan sylw."

Dywedodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rwy'n falch iawn bod gan Radio Beca y drwydded newydd hon. Mae'n ddatblygiad arwyddocaol iawn.

"Er bod y newyddion hwn yn bwysig, allwn ni ddim osgoi'r ffaith bod 'na nifer o gwmn茂au radio sydd wedi torri yn 么l yn sylweddol ar eu horiau darlledu yn y Gymraeg ac sy'n ceisio mynd yn bellach.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn edrych yn fanwl ar y sefyllfa hon."

'Cyffrous'

Dyw'r manylion am yr union oriau darlledu ddim wedi eu penderfynu eto.

Dywedodd y Parchedig Beti-Wyn James, ysgrifennydd Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin: "Mae hyn yn newyddion rhagorol a chyffrous dros ben.

"Yn sgil erydu safle'r Gymraeg ar radio lleol, bu'r Cyfundeb, sy'n cynrychioli 3,000 o aelodau mewn 44 o gapeli, yn lob茂o Ofcom i ganiat谩u trwydded darlledu i fenter Radio Beca.

"Hyderwn y bydd y gwasanaeth newydd yn adlewyrchu ac yn hybu pob agwedd o fywyd a diwylliant gorllewin Cymru," meddai Mrs James, "gan gynnwys, wrth gwrs, y bywyd a'r gweithgarwch Cristnogol sy'n dal i fod mor bwysig i'n pobl."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol