91热爆

Ffracio: Pryder diogelwch wrth i gynlluniau gael caniatad

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr yn erbyn y gwaith y tu allan i swyddfeydd cyngor Bro MorgannwgFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymgyrchwyr yn erbyn y gwaith y tu allan i swyddfeydd cyngor Bro Morgannwg

Mae amgylcheddwyr yng Nghymru wedi ailadrodd eu gwrthwynebiad i ddull dadleuol o dyllu am nwy wedi i arbenigwyr Llywodraeth y DU ddweud y dylai'r cynllun fynd ymlaen.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi datgan eu pryderon yngl欧n 芒 ffracio, sy'n golygu chwistrellu tywod a hylif i'r creigiau dan ddaear i'w gwahanu a rhyddhau'r nwy.

Fe wnaeth arbenigwyr gadarnhau bod y broses wedi achosi dau ddaeargryn bach ger Blackpool y llynedd.

Dywed arbenigwyr y llywodraeth y dylid caniat谩u ffracio o dan ganllawiau llym.

Y gred yw y gall nwy si芒l greu cyflenwadau ynni rhad.

Mae nifer o gwmn茂au am ddefnyddio dull ffracio i dyllu am y nwy gan gynnwys un safle ym Mro Morgannwg.

Daeargrynfeydd

Cafodd cais cynllunio i archwilio ac arbrofi ar y safle yn Lland诺 ei wrthod gan yr awdurdod lleol y llynedd ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r bwriad o gynnal profion i dyllu am nwy yno'r mis nesaf.

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth dywed panel o arbenigwyr, gafodd ei benodi gan Lywodraeth y DU, ei fod yn credu ei fod yn debygol y bydd mwy o ddaeargrynfeydd yn cael eu hachosi gan ffracio ond y byddan nhw'n rhy fach i achosi difrod adeileddol uwchben y ddaear.

Mae'r adroddiad yn argymell gosod canllawiau llym gan gynnwys monitro digwyddiadau seismig.

Fe geir cyfnod ymgynghorol o chwe wythnos i drafod yr adroddiad ac fe fydd Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn cyhoeddi canllawiau yn dilyn y cyfnod hwn.

Allyriadau carbon

Ond mae cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb, wedi dweud y dylai'r broses gael ei hosgoi'n gyfan gwbl.

"Mae ein prif bryderon yn ymwneud ag allyriadau newid yn yr hinsawdd fyddai'n gysylltiedig 芒 nwy si芒l ar raddfa fawr i greu trydan," meddai Mr Clubb wrth 91热爆 Cymru.

"Rydym yn gwybod bod nwy si芒l yn cynhyrchu mwy o allyriadau na nwy confensiynol ac mewn nifer o achosion y byddai'n cynhyrchu dim ond ychydig yn llai o allyriadau na glo, a mwy o allyriadau na glo mewn rhai achosion.

Honnodd Mr Clubb y gallai echdynnu nwy si芒l ddefnyddio mwy na chwarter yr arian sydd wedi'i neilltuo ar gyfer allyriadau carbon yn y DU.

"Mae'n ddeniadol i Weinidogion y Cabinet feddwl bod yr holl adnoddau hyn o dan y ddaear ond pan ystyrir yr effaith ar newid hinsawdd ni ddylai'r cynllun hwn fynd yn ei flaen," meddai.

Arolygydd Cynllunio

Datganodd Mr Clubb, hefyd, bryderon diogelwch yngl欧n 芒 ffracio.

"Nid yw chwistrellu cemegau sy'n achosi canser a chemegau eraill cas iawn i mewn i is-haenau'r ddaear yn ddull da o weithredu," meddai.

"Nid oes rhaid i gwmn茂au ddatgan pa gemegau maen nhw'n eu defnyddio i'r cyhoedd."

Ym mis Ionawr eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan y bydden nhw'n cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r bwriad o gynnal profion i dyllu am nwy ym Mro Morgannwg.

Fe wnaeth Cyngor Bro Morgannwg wrthod cais gan gwmni Coastal Oil and Gas o Ben-y-bont ar Ogwr i archwilio ac arbrofi ar y safle yn Lland诺 ar gyfer nwy si芒l a nwy confensiynol.

Mae'r cwmni wedi gwneud ap锚l i Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl i'r ymchwiliad gael ei gynnal ar Fai 23.

Cafodd trigolion lleol y cyfle i nodi unrhyw wrthwynebiad i'r cais gyda'r Arolygydd Cynllunio.

Mae pobl leol wedi lleisio eu pryderon y gall y profion i dyllu am nwy gael ei ddilyn gan gynllun ffracio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru'n credu bod angen ystyried y potensial o dyllu am nwy ac ystyried y pryderon ynghylch yr effaith posib o'r math hwn o archwilio nwy.

"Oherwydd mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ganiat谩u trwyddedi archwilio, ffynhonnau a datblygu meysydd fe fydden ni'n croesawi unrhyw gydweithio rhyngddynt a gweinyddiaethau datganoledig ar draws y DU i roi fframwaith polisi ar sail tystiolaeth gadarn mewn lle o ran nwy si芒l yn y DU."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol