91热爆

Ap锚l dyn busnes o Gaernarfon yn methu

  • Cyhoeddwyd
William O'GradyFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafwyd William O'Grady yn euog ym mis Rhagfyr

Mae ap锚l dyn busnes oedd yn herio dyfarniad blaenorol wedi methu yn y Llys Ap锚l yn Llundain ddydd Llun.

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe gafwyd William O'Grady, 47 oed o Gaeathro ger Gaernarfon yn euog o waredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Cafodd ddedfryd o flwyddyn o garchar gohiriedig a gorchymyn i wneud 300 awr o waith di-d芒l yn y gymuned.

Fe gafodd ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am y pum mlynedd nesaf.

Roedd ei gwmn茂oedd, Gwynedd Skip Hire a Wm O'Grady Haulage & Plant Hire, hefyd yn euog o droseddau'n ymwneud 芒 gwaredu gwastraff.

'Tystiolaeth newydd'

Ddydd Llun apeliodd y tri.

Clywodd y llys fod y troseddau ar ddau safle yn ardal Caernarfon, Bryn Awelon a Thyddyn Whisgin.

Dadleuodd cyfreithwyr O'Grady a'i gwmn茂oedd fod "tystiolaeth newydd" yn gysylltiedig a'r hyn ddywedodd tyst yn yr achos gwreiddiol yn golygu bod y dyfarniad yn "anniogel".

Dywedodd y tri barnwr, Syr John Thomas, Mr Ustus Treacy a Mr Ustus Haddon-Cave, eu bod yn gwrthod y dadleuon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol