Cwmn茂au celfyddydol wedi dod i ben wedi colli grantiau
- Cyhoeddwyd
Blwyddyn ar 么l newidiadau mawr yn y ffordd mae'r celfyddydau yng Nghymru'n cael eu hariannu, mae pum cwmni wedi mynd i'r wal ar 么l colli eu grantiau.
Yn eu plith mae Theatr Gwent oedd yn arfer perfformio o flaen miloedd o blant ysgol bob blwyddyn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dweud eu bod nhw'n siomedig yngl欧n 芒 chwmn茂au'n cau.
Ond maen nhw'n dweud eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd drwy ailstrwythuro'r system grantiau.
Fe fu Theatr Gwent yn mynd 芒 chynyrchiadau theatrig i ysgolion am dros 40 mlynedd.
Dyma oedd eu bara menyn ac roedd dros 20,000 o ddisgyblion yn gweld eu cynyrchiadau bob blwyddyn.
'Anfodlon'
"Dwi heb dderbyn atebion derbyniol i'r hyn ofynnwyd a dydi'r Bwrdd Theatr Gwent ddim chwaith," meddai Gary Meredith, cyn gyfarwyddwr artistig Theatr Gwent.
"Dwi'n gwbl anfodlon gyda'r modd y cafodd y penderfyniad ei wneud ac yn gwbl anfodlon gyda'r rheswm gafodd ei osod i wneud y penderfyniad."
Collodd 32 o gwmn茂au arian gan y Cyngor Celfyddydau'r llynedd.
Ymhlith y pum cwmni i ddod i ben o'r rhain y mae dau gwmni dawns, dau gr诺p theatr a sefydliad celf gyhoeddus, Community Dance Wales, Welsh Independant Dance, CBAT, Theatr Powys a Theatr Gwent.
"Wrth i ni ail-drefnu roeddem yn edrych ar gyllido llai o gwmn茂au yn well," meddai Ian Rees, Is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
"Fe wnaethon ni weithio gyda'r cwmn茂au oedd yn colli cyllid refeniw i addasu ac mae nifer wedi addasu i allu parhau mewn bodolaeth.
"Ond mae'n drist gweld rhai cwmn茂au yn mynd."
Blaguro
I gwmni fel Spectacle mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner drwy orfod chwilio am gyllid eu hunain yn ogystal ag ailddyfeisio'r gwaith maen nhw'n ei wneud.
"Yr hyn yr ydan ni yn gobeithio ei wneud dros y tair blynedd nesa' yw dibynnu llai ar grantiau ac ennill mwy o'n harian ein hunain," meddai Steve Davies, Spectacle Theatre.
"Mae gennym ni gynllun busnes cadarn yn ei le."
Ymhlith y cwmn茂au eraill sydd wedi blaguro yn 么l Cyngor Celfyddydau Cymru y mae'r National Theatr Wales; Ballet Cymru a No Fit State Circus.
Ers y newidiadau mae gr诺p o ASau yn bwriadu edrych ar y modd y mae'r diwydiant wedi addasu ac ar y modd y mae'r ddarpariaeth wedi ei effeithio.