Argymhelliad i wrthod cynlluniau ar gyfer fferm wynt
- Cyhoeddwyd
Mae 'na argymhelliad i wrthod cynlluniau ar gyfer 11 o dyrbinau gwynt ger Y Drenewydd wedi i gynllunwyr ddweud y byddai'r cynllun yn cael "effaith sylweddol" ar ffyrdd.
Roedd cwmni Acciona Energy UK Ltd wedi gwneud cais i Gyngor Powys i gael codi tyrbinau 377 troedfedd (115m) yn Waun Garno, ger Llawr y Glyn.
Ond mae adroddiad y cyngor yn dweud y byddai'n rhaid cyrraedd y safle ar hyd ffyrdd cul, fyddai'n cyfyngu ar lif y traffig ar ffyrdd mwy.
Roedd 'na hefyd bryderon am yr effaith ar y tirwedd a'r olygfa.
Mae'r gwrthwynebiad i ffermydd gwynt wedi cynyddu ym Mhowys ers i'r Grid Cenedlaethol gyhoeddi cynlluniau'r llynedd i adeiladu is-orsaf 19 erw yn Aber-miwl, ger Y Drenewydd, neu yng Nghefn Coch, ger Llanfair Caereinion.
'600 yn ychwanegol'
Dadl y Grid Cenedlaethol yw y bydd yn rhaid uwchraddio'r rhwydwaith trosglwyddiad presennol er mwyn ymdopi 芒'r p诺er ychwanegol fydd yn cael ei gynhyrchu gan dyrbinau gwynt mwy grymus.
Eisoes mae 'na thua 200 o dyrbinau gwynt ar draws Powys, gydag adroddiadau y gallai 600 yn ychwanegol gael eu codi yn y dyfodol.
Wrth argymell gwrthod y cynllun fferm wynt, dywedodd adroddiad gan Gyngor Powys: "Mae'r cyfuniad o'r effaith y byddai'r cynllun arfaethedig yn ei gael ar dirwedd, golygfa, bioamrywiaeth, treftadaeth ddiwylliannol, hawl i fynediad y cyhoedd, s诺n ynghyd 芒'r effaith ar y ffyrdd, yn fwy o dipyn na'r budd o'r ynni adnewyddol fyddai'n cael ei greu."
Ychwanegodd yr adroddiad: "Gan y byddai 'na effaith fwy ar y priffyrdd a strwythurau oherwydd y cynllun arfaethedig, y datblygwr fyddai'n gyfrifol am waith cynnal a chadw ychwanegol ac nid yr awdurdod priffyrdd.
"Yn fwy na hynny, byddai lledu'r priffyrdd yn effeithio ar dir y tu allan i berchnogaeth yr awdurdod priffyrdd a thu hwnt i reolaeth y datblygwr.
Llwythi trymion
"Byddai unrhyw gynllun fferm wynt arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar y rhwydwaith ffyrdd."
Cafodd pryderon am gludo cydrannau'r tyrbinau gwynt i rannau anghysbell ym Mhowys eu codi gynta' mewn adroddiad cyngor yn 2009.
Yn 么l yr adroddiad, byddai'n anodd i dryciau deithio ar hyd ffyrdd gwledig cul gyda llwythi trymion.
Ym mis Ionawr, dywedodd pobl fusnes yn Y Drenewydd eu bod yn poeni am broblemau traffig oherwydd cynlluniau'r fferm wynt.
Ond dywed datblygwyr ynni gwynt mai byrhoedlog fyddai'r cynnydd mewn lor茂au neu lwythi trymion, fyddai ond yn berthnasol yn ystod y broses adeiladu.
Bydd Cyngor Powys yn darlledu'r pwyllgor cynllunio yn fyw ar y rhyngrwyd ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012