91热爆

Y dechnoleg ddiweddara i groesawu'r gweilch

  • Cyhoeddwyd
Cywion Cors DyfiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cywion eu geni ar Fehefin 5 a 6 y llynedd

Bydd tua 70 o wirfoddolwyr yn gweithio'n galed ddydd Iau i ddiweddaru adnoddau technoleg cynllun gweilch-y-pysgod Dyfi.

Fe fydd y gwirfoddolwyr yn tynnu ceblau ffeibr drwy 800 metr o fwd er mwyn uwchraddio'r system camer芒u yn y nyth i ddangos lluniau o ansawdd uchel - HD - i ymwelwyr 芒'r cynllun.

Mae'r nyth yn Ynyshir, Cors Dyfi, ar ben polyn telegraff.

Mae'r safle'n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn.

Gosodwyd y ganolfan ymwelwyr i'r safle rhyw 800 metr o'r nyth, a dywed rheolwyr y cynllun mai defnyddio ceblau o'r fath yw'r unig ffordd o gael delweddau fideo o safon uchel ar y sgrin yn y ganolfan.

Denu cymar

Y llynedd fe gafodd cywion gweilch eu geni yn Nyffryn Dyfi am y tro cyntaf ers dros bedair canrif.

Fe gafodd y cyw cyntaf ei eni yng Nghors Dyfi ar Fehefin 5, 2011, a'r ail y diwrnod canlynol.

Roedd tad y cywion, Monty, wedi methu denu cymar am y ddwy flynedd ers iddo ymgartrefu mewn nyth 50 troedfedd o uchder yng ngwarchodfa Cors Dyfi, cartref Prosiect Gweilch y Dyfi.

Ond y llynedd fe ddaeth cymar i'r nyth ddeuddydd wedi i Monty gyrraedd, ac fe gafodd yr enw Nora.

Y rhain yw'r ail b芒r o weilch sy'n magu ar hyn o bryd yng Nghymru - mae'r p芒r arall yn Aberglaslyn ger Porthmadog eisoes wedi cynhyrchu cywion ers rhai blynyddoedd.

Mae rheolwyr y cynllun yn gobeithio y bydd y ceblau - a'r sustem camer芒u - yn eu lle cyn i Monty a Nora ddychwelyd rhywdro yn ystod diwedd Mawrth neu ddechrau Ebrill eleni.

Daeth ymhell dros 15,000 o bobl i'r safle yn 2011, ac mae Emyr Evans - rheolwr Prosiect Gweilch Dyfi - ei fod yn gobeithio denu mwy fyth eleni.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol