91热爆

'Yn falch o fod adre'

  • Cyhoeddwyd
Brian "Yogi" Davies yn ei gartref yn y Bala, GwyneddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddodd Brian lyfr am ei brofiadau yn 2009

Mae cyn-chwaraewr rygbi o'r Bala gafodd ei barlysu ar 么l damwain g锚m rygbi wedi dod adre o'r ysbyty.

Roedd Brian Davies neu Yogi i fod i chwarae ei g锚m olaf i'r Bala yn 2007 pan gafodd yr anaf a cholli unrhyw deimlad o'i wddf i lawr.

Daeth adref o'r ysbyty 18 mis yn ddiweddarach ond bu'n rhaid iddo ddychwelyd i'r ysbyty wedi i un o'i ysgyfaint ddadchwyddo.

Dywedodd Brian na fyddai wedi dygymod "heblaw am bobl Cymru".

拢200,000

Cafodd ei d欧 ei addasu wedi ap锚l gododd 拢200,000.

Roedd Brian wedi treulio 18 mis mewn ysbyty yn Southport.

Mae ganddo wyth gofalwr llawn amser ac un gofalwr rhan amser a rhaid i o leia' un fod yn ei gwmni drwy'r amser.

"Fyddwn i ddim wedi gallu dychwelyd adref heblaw am yr help gefais i gan bobl Cymru," meddai Brian sy'n byw gyda'i wraig, Sue, a dau o blant.

"Cyfrannodd pob clwb rygbi yng Nghymru ar gyfer y gronfa ac mae llawer o bobl yn dal i gyfrannu am nad ydan ni'n derbyn grant am ein gofynion.

"Mi faswn i'n byw yn Southport am byth heblaw am bobl Cymru."

Yn 2009 cyhoeddodd lyfr am ei brofiadau - Mewn Deg Eiliad - gan obeithio y byddai'n helpu unrhyw un yn yr un sefyllfa.