Prifysgolion Cymru: Ceisiadau yn gostwng 9.3%
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y myfyrwyr sy'n ymgeisio am lefydd ym mhrifysgolion Cymru yn 2012 wedi gostwng o'i gymharu 芒'r llynedd, yn 么l ystadegau Ucas.
Roedd 60,527 wedi ceisio am le erbyn Ionawr 15, 2012, gostyngiad o 9.3%, ac yn y Deyrnas Gyfunol y gostyngiad oedd 8.3%.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "paratoi ymateb" i'r ystadegau diweddara.
Yn 么l Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, roedd yr ystadegau'n uwch nag yn 2009.
'Mwy o amser'
"Mae'n amlwg fod myfyrwyr yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol wedi bod yn cymryd mwy o amser eleni i ystyried yr opsiynau wedi'r trefniant newydd gyda ffioedd," meddai.
Ychwanegodd y byddai ceisiadau yn parhau i gael eu derbyn hyd at Fehefin 2012.
"Mae'n bwysig sicrhau na fydd unrhyw un allai elwa ar addysg uwch yn colli cyfle oherwydd diffyg gwybodaeth eglur am y gefnogaeth ar gael ac, yn enwedig, y fantais wrth astudio yng Nghymru," meddai.
Roedd yna ostyngiad o 12.3% i 36,195 yn nifer y ceisiadau o Loegr. Fel arfer mae'r rhain yn cyfateb i fwy na 50% o'r holl geisiadau ar gyfer colegau yng Nghymru.
Roedd nifer y ceisiadau o'r Alban wedi gostwng 39.5% a Gogledd Iwerddon 15.3% tra bod nifer y ceisiadau o Gymru wedi gostwng 4.5%.
Os oedd nifer ceisiadau o'r Undeb Ewropeaidd wedi gostwng 13.2%, roedd yna gynnydd o 12% yn nifer y ceisiadau o wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd ff茂oedd dysgu ar gyfer prifysgolion Lloegr yn codi i uchafswm o 拢9,000 y flwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesa.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi addo talu am y cynnydd ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy'n penderfynu mynd i Loegr.
'Codi pryder'
Dywedodd Angela Burns AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, fod polisi ff茂oedd Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y nifer o Loegr oedd yn astudio yng Nghymru
"Mae'r ystadegau diweddara'n codi pryder am y polisi tila hwn," meddai.
"Mae hwn yn bolisi heb ei gynllunio sy'n dibynnu ar lif traws-ffiniol myfyrwyr a dylai'r ystadegau olygu bod angen i'r gweinidog gymryd camau."
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: "Dylai'r Ceidwadwyr gofio bod pobl Cymru wedi gwrthod eu cynigion addysg oedd yn gorfodi myfyrwyr i dalu'r gyfradd ff茂oedd uchaf ble bynnag yr oedden nhw'n astudio.
'20% yn llai'
"Fe fyddai eu cynigion wedi golygu 20% yn llai o wario ar addysg ac fe gefnogodd pobl ein polisi ni am ei fod yn deg."
Yn y cyfamser, dywedodd Luke Young, Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Nghymru: "Mae'r ystadegau'n dangos bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal costau myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i'r brifysgol wedi bod yn gywir.
"Roedd llai o gwymp yn nifer y ceisiadau o Gymru ac, er nad yw hyn yn achos dathlu, mae'n sefyllfa well nag un myfyrwyr o Loegr sy'n wynebu ff茂oedd dysgu blynyddol o hyd at 拢9,000.
"Mae 12% yn llai o fyfyrwyr o Loegr yn gwneud cais i astudio mewn sefydliadau yng Nghymru yn dangos bod gan ein prifysgolion gryn lawer o waith o ran darbwyllo pobl yngl欧n 芒 manteision astudio yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011