91Èȱ¬

Cynllun i ailadeiladu dwy ysgol yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Cynllun ar gyfer Glan ClwydFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl yw i nifer y disgyblion yn Ysgol Glan Clwyd godi 20% erbyn 2016.

Mae mwy o fanylion wedi dod i'r amlwg ynglŷn â chynlluniau gwerth £73.4 miliwn gan gyngor Dinbych i atgyweirio dwy ysgol uwchradd yn y sir.

Mae'r awdurdod lleol am ailadeiladu Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac ailwampio Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy i ddarparu ar gyfer nifer cynyddol y disgyblion.

Mae'r cyngor sir a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r cynllun mewn egwyddor ond bydd rhaid i'r awdurdod ddod o hyd i hanner yr arian.

Dywed swyddogion y bydd ymgynghoriad lleol yn dechrau cyn gynted ag y bydd cytundeb ynglŷn â dyddiadau cychwyn y cynllun.

'Adfeiliedig'

Ym mis Rhagfyr y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £1.4bn wedi ei neilltuo ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif dros gyfnod o saith mlynedd tan 2021.

Fe fydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cyfrannu £700m yr un wrth i'r arian gael ei wario ar adnewyddu ysgolion ac adeiladu rhai newydd.

Ond hyd yn hyn nid yw Llywodraeth Cymru wedi datgan pryd y byddan nhw'n rhyddhau'r arian ar gyfer y cynllun yn Sir Ddinbych.

Yn ôl Jackie Walley, pennaeth adran Moderneiddio Addysg Cyngor Dinbych, mae rhannau o Ysgol Uwchradd Y Rhyl mewn cyflwr "adfeiliedig".

Ychwanegodd fod y cynllun moderneiddio yn "gyffrous", gan ddweud bod disgyblion ac athrawon yn haeddu gwell cyfleusterau.

Cyflwynwyd mesurau arbennig ar gyfer yr ysgol yn dilyn pryderon ynghylch safonau addysg ond fe gafodd y mesurau hyn eu codi yn 2010 a chafodd prifathrawes newydd ei phenodi.

'Maen tramgwydd'

"Mae ein staff a'n myfyrwyr wedi gweithio mor galed i wella ein hysgol," meddai'r prifathro, Claire Armistead.

"Maen nhw wedi cael y canlyniadau TGAU gorau yn hanes yr ysgol gan sicrhau ein bod ni wedi datblygu amgylchedd cefnogol ac uchelgeisiol.

"Ein maen tramgwydd mwyaf oedd ein hadeilad.

"Bydd ailwampio'r adeilad yn sicrhau y byddan ni'n gallu mynd o nerth i nerth i fod yr ysgol wych rydyn ni eisiau bod.

Mae swyddogion y cyngor yn awr yn ystyried sut y gallan nhw godi'r arian ar gyfer y gwaith adeiladu.

Ond dywed Mrs Walley y gallai'r sefyllfa gael ei chymhlethu yn dilyn etholiadau'r cyngor sir ym mis Mai pe bai cyfansoddiad gwleidyddol y cyngor yn newid.

Mae'r cynllun i atgyweirio Ysgol Glan Clwyd o ganlyniad i ddiffyg lle a'r disgwyl i nifer y disgyblion godi 20% erbyn 2016.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2014-15 ac "erbyn hynny fe fyddwn ni wedi cynnal y trafodaethau angenrheidiol gyda'r awdurdodau lleol sy'n rhan o'r cynllun hwn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol