Mynd ag enillion troseddwyr cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi gorchymyn y dylid mynd ag enillion dau aelod gang cyffuriau yn y gogledd.
Cafodd y gang naw aelod, yr oedd John Gizzi ei arwain, eu carcharu am gyfanswm o 66 o flynyddoedd ym mis Mawrth 2011.
Roedd Neil Sutemire, 38 oed o Lerpwl, wedi ei garcharu am bum mlynedd ac wyth mis am ddosbarthu cyffuriau.
Cafodd ei arestio yn Rhagfyr 2009 ac roedd 拢29,000 o arian parod yn ei gerbyd.
Ddydd Mercher oherwydd y Ddeddf Elw Troseddau roedd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug oedd yn eistedd yng Nghaer.
Penderfynodd y Barnwr Dafydd Hughes ei fod wedi elwa 拢52,750 o'i fywyd troseddol.
Clywodd y llys fod 拢29,021 eisoes yn nwylo'r heddlu.
Prosesu
Roedd gorchymyn y dylid cadw'r Vauxhal Vectra oedd wedi ei ddefnyddio ar gyfer y troseddau.
Penderfynodd y llys fod ei gyd-ddifynnydd Michael Bennett wedi elwa 拢80,000 o'i droseddau.
Roedd Bennett, 33 o Benlan, Towyn, yn rhentu uned ddiwydiannol lle oedd y cyffuriau yn cael eu prosesu.
Yn wreiddiol, cafodd bedair blynedd a hanner o garchar.
Clywodd y llys i'r heddlu ddod o hyd i 拢2,452 o arian parod pan gafodd ei arestio.
Roedd yr heddlu wedi dod o hyd i goc锚n gwerth 拢162,000 mewn tacsi yn Queensferry, Sir y Fflint, yn Ebrill 2010.
Cafodd Gizzi, 30 oed o San Si么r ger Abergele, ei garcharu am 11 o flynyddoedd. .
Cafodd aelodau eraill y gang o Dywyn, Y Rhyl, Bae Cinmel a Lerpwl eu carcharu am gyfnodau rhwng pedair blynedd a hanner a naw mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2011