91热爆

Colli Sue Evans fu'n 'ysbrydoliaeth'

  • Cyhoeddwyd
Sue Evans yn 2009Ffynhonnell y llun, 91热爆 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Sue Evans ganfod ei bod yn dioddef o ganser yr ysgyfaint yn 2008

Bu farw menyw yr oedd ei brwydr yn erbyn canser yr ysgyfaint yn ysbrydoliaeth i daith i fyny mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro gan rai o s锚r rygbi Cymru.

Fe wnaeth Sue Evans, mam i bedwar a gwraig Huw Evans sy'n ffotograffydd swyddogol i Undeb Rygbi Cymru, ganfod ei bod yn dioddef o ganser yr ysgyfaint yn 2008.

Cyhoeddodd ei g诺r ei marwolaeth ar wefan Facebook ddydd Iau.

"Bu farw Sue y bore 'ma am 7.16...cwympodd i gysgu wrth fy ymyl yn dawel.

"Menyw hyfryd, gwraig, mam a fy ffrind gorau".

Fe wnaeth y criw ddringo'r mynydd er mwyn codi arian tuag at Ap锚l Stepping Stones yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd.

Ymhlith yr 50 a aeth i Affrica yn 2010 oedd Ieuan Evans, Scott Gibbs, Gareth Thomas, Scott Quinell, Garin Jenkins a Rob Howley.

'Methu anadlu'

Yn 2009, esboniodd Sue Evans mai yn ystod taith rygbi i Baris ym mis Hydref 2008 y teimlodd yn wael i ddechrau.

"Pythefnos wedyn roeddwn adre ac yn mynd 芒'r ci am dro ac roeddwn yn methu anadlu a dim ond cael a chael wnes i gyrraedd adre.

"Fe es i ar y cyfrifiadur a nodi'r symptomau.

"Chwe diwrnod wedyn cefais wybod fy mod yn diodde' o ganser yr ysgyfaint."

Er nad oedd Sue Evans yn ysmygu, mae canser yr ysgyfaint yn un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru.