Mwy o drafod ar ad-drefnu addysg Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi pleidleisio i ail ddechrau trafodaethau cyhoeddus oherwydd pryder ynglyn 芒 chynlluniau i ad-drefnu addysg uwchradd yn Sir y Fflint.
Cafodd y cynlluniau ad-drefnu eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Yn 么l swyddogion addysg y sir mae tair ysgol uwchradd a nifer uchel o leoedd gwag - Ysgol Uwchradd Treffynnon, Ysgol Elfed ym Mwcle ac Ysgol John Summers yn Queensferry.
Wedi cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn ystod yr hydref, cafodd cais a gyflwynwyd i gynghorwyr ddydd Mercher yn ymwneud 芒 ei gymeradwyo.
Mae nifer o wahanol opsiynau ar gyfer yr ysgolion, gan gynnwys uno ysgolion John Summers a Chei Conna, cau dwy ysgol ac agor un newydd.
"Campws dysgu"
O dan y cynlluniau, mae 'na drafodaeth yngl欧n 芒 chael ysgol ar gyfer plant 11-18 oed ar "gampws dysgu" yn lle Ysgol Uwchradd Treffynnon.
Byddai'r ysgol honno'n cynnig addysg gynradd cyfrwng Saesneg, ond ddim yn cynnwys darpariaeth Cymraeg na Phabyddol.
Ym Mwcle, un o'r opsiynau fyddai "cyd-leoli" ysgolion Westwood ac Elfed ar safle Ysgol Elfed, gan ddarparu addysg ar gyfer disgyblion 3-16 oed.
Fel rhan o'r newidiadau i'r cynlluniau gwreiddiol, mae cynnig i uno Ysgol Argoed, Mynydd Isa, ac Ysgol Uwchradd Elfed wedi'u rhoi o'r neilltu.
Roedd penaethiaid y cyngor wedi cyfadde' ym mis Awst mai "cymysg" oedd ymateb y cyhoedd i'r cynlluniau
Daeth yr ymgynghoriad cynta' i ben wedi i rai rhieni godi cwestiynau yngl欧n ag amseru'r cyfan dros wyliau'r haf.