Manylion arian i adnewyddu ysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi faint o arian sydd wedi ei neilltuo i bob awdurdod lleol Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Daw'r cyhoeddiad fisoedd yn hwyrach na'r disgwyl ar ôl i'r rhaglen gael ei gohirio dros dro ym mis Gorffennaf.
Ar y pryd gwnaed cais i gynghorau i ailfeddwl eu cynlluniau.
Fe fydd yr arian ar gyfer adnewyddu ysgolion ac i adeiladu rhai newydd.
Mae'n ymddangos bod mwyafrif y cynghorau wedi haneru eu cynlluniau gwario ar ôl cael y byddai'n rhaid iddyn nhw gyfrannu hanner y gost oherwydd y sefyllfa ariannol.
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, mai toriadau Llywodraeth San Steffan oedd yn gyfrifol am hyn.
Fe wnaeth pob un o gynghorau Cymru gyflwyno cynlluniau ym
Y nod oedd darparu gwell adeiladau ar gyfer addysg plant.
Roedd gwrthwynebiad yn lleol i nifer o gynlluniau gwahanol gynghorau.
Yn wreiddiol, fe wnaeth cynghorau flaenoriaethu pa ysgolion oedd angen eu codi neu eu hadnewyddu rhwng 2012 a 2015.
Ond nawr o dan y drefn newydd deellir mai 2014 fydd y dyddiad cychwynnol.
Hefyd fe allai'r gwaith gymryd tan 2020.
Buddsoddiad
Yn ôl ffigyrau a roddwyd i 91Èȱ¬ Cymru gan 17 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru fe fydd £178 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar ysgolion newydd.
Bydd 50% o'r arian yn dod o Lywodraeth Cymru a 50% o'r cynghorau.
Yn ôl y cynlluniau gwreiddiol, byddai £360 miliwn y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi, 30% gan y cynghorau a 70% gan Lywodraeth Cymru.
Nod gwreiddiol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif oedd codi ysgolion newydd dros bum cyfnod o dair blynedd.
Cyflwr yr adeiladau fyddai'n penderfynu pa ysgolion fyddai'n cael blaenoriaeth.
Ond nawr deellir mai dim ond cynlluniau i godi ysgolion yn y cyfnod cyntaf sydd â sicrwydd o ddigwydd.
Bydd hynny dros gyfnod o chwech yn hytrach na thair blynedd.
Bydd penderfyniad ar y pedwar "cyfnod" arall yn cael ei wneud maes o law.
Fe ofynnwyd i gynghorau leihau nifer y llefydd gwag mewn ysgolion a hefyd leihau'r gost o gynnal a chadw adeiladau anaddas.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r Gweinidog Addysg yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach ddydd Llun.
"Mae angen pwysleisio fod cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei thorri £1.95bn mewn termau real gan Lywdraeth y Deyrnas Unedig erbyn 2014-15," meddai.
"Hefyd, erbyn 2014-15 bydd ein cyllideb gyfalaf - sef yr hyn rydym yn ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn ysgolion newydd 45% yn llai mewn termau real nag yn 2009-10."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011