Y Ffair Aeaf: Ffermwyr yn fwy ffyddiog
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd mae yna awgrym bod ffermwyr yn fwy ffyddiog am eu dyfodol o'i gymharu 芒'r adeg hon y llynedd.
Roedd dros 60% o'r sawl a gafodd eu holi mewn arolwg gan NFU Cymru yn fwy ffyddiog yngl欧n 芒'r tymor byr a'r hirdymor a thros 50% yn ystyried cynhyrchu rhagor yn y pum mlynedd nesaf.
Ac yn ystod y Ffair, fydd yn para dau ddiwrnod, mae disgwyl i Gig Oen Cymru gyhoeddi fod mwy o gig oen yn mynd i gael eu hallforio o Gymru i Ganada yn y dyfodol.
Mae Cig Oen Cymru wedi llwyddo i gyrraedd y farchnad yng Nghanada ar 么l taith fasnach lwyddiannus dan ofal yr asiantaeth hyrwyddo cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC).
Unedau prosesu cig
"Bu HCC yn arwain taith fasnach i Ganada ddiwedd Medi a chawsom ymateb gwych gan fewnforwyr y wlad," meddai Rheolwraig Datblygu'r Farchnad, Laura Dodds.
Yn ystod y daith fasnach, a barodd am wythnos, canolbwyntiodd y ddirprwyaeth ar Toronto, lle bu cynrychiolwyr HCC a'r cwmn茂au prosesu yn ymweld ag Asiantaeth Arolygu Bwyd Canada; chwe darpar mewnforiwr sy'n cyflenwi m芒n-werthwyr a thai bwyta; ac un o'r prif archfarchnadoedd yng Nghanada.
Yn gynharach eleni gofynnodd HCC i'r awdurdodau yng Nghanada i roi'r hawl i unedau prosesu cig yng Nghymru i allforio Cig Oen Cymru i Ganada.
Fel canlyniad, mae tystysgrifau iechyd allforio ar gyfer Cig Oen Cymru ar gael erbyn hyn i'r holl gwmn茂au a wnaeth gais.
Yn 么l canlyniadau ymchwil gan HCC a gyhoeddwyd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf eleni, mae yna alw cynyddol am Gig Oen Cymru gan drigolion brodorol Canada a phobl sydd wedi symud i fyw i'r wlad.
Mae'r ffigurau'n dangos fod Canadiaid yn 2008 wedi defnyddio 34 miliwn kg o gig oen.
targedau allforio
Roedd ychydig dros hanner ohono - 17.5 miliwn kg - wedi'i gynhyrchu yng Nghanada a'r gweddill wedi'i fewnforio.
Mae'r farchnad yng Nghanada'n dibynnu ar fewnforion cig oen o Seland Newydd, Awstralia ac UDA.
Ond mae'r galw cynyddol am gig oen ledled y byd yn golygu bod Canada yn ei chael ei hun heb ddigon o gig oen gan ei chyflenwyr presennol.
Y llynedd, roedd allforion Cig Oen Cymru yn werth dros 拢111 miliwn i economi'r DU, a gwerthwyd y rhan fwyaf o'r cig i dir mawr Ewrop.
Ond cafwyd y cynnydd canrannol mwyaf yn y Dwyrain Pell, gydag allforion Cig Oen Cymru i Hong Kong yn cynyddu 35 y cant, a chynnydd o 80 y cant yn yr archebion o Singap么r.
Mae Tsieina hefyd yn un o'r targedau allforio pwysicaf ar gyfer Cig Oen Cymru.
Bu Prif Weinidog Cymru, Crwyn Jones, yn arwain taith fasnach i'r wlad yn ddiweddar.
Y pencampwr seiclo Olympaidd o Gymru, Geraint Thomas, fydd un o'r prif atyniadau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.
Yn 么l y trefnwyr mae disgwyl i fwy na 20,000 o bobl ymweld 芒'r ffair, sy'n cael ei chynnal ar Dachwedd 28 a 29.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011