Ystyried 40 safle newydd i dyrbinau

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Mae tyrbinau gwynt yn bethau cyfarwydd yng ngogledd yr ynys ers blynyddoedd

Mae dros 40 o safleoedd newydd ar Ynys M么n dan ystyriaeth ar gyfer codi tyrbinau gwynt.

Mae Cyngor M么n yn dweud eu bod nhw am lunio polis茂au cynllunio newydd i ddelio efo'r holl geisiadau maen nhw'n ei dderbyn, ac mi fydd 'na gyfle cyn bo hir i bobl yr ynys roi eu barn nhw.

Ond mae mudiad sydd wedi'i sefydlu i wrthwynebu'r datblygiadau yn dweud y byddai mwy o dyrbinau'n dinistrio cefn gwlad.

Dywedodd un aelod o'r gr诺p, Owain Evans:

"Ein pryder mwyaf ni ydi bod hyn yn mynd i effeithio ar ein tirlun ni, ein ffordd o fyw ni a thwristiaeth ar yr ynys.

"Mae'r rhain yn bethau sydd yn creu s诺n, a dydyn nhw ddim y pethau gorau o ran creu trydan."

Llawer mwy

Mae tyrbinau gwynt yn bethau cyfarwydd yng ngogledd M么n ers blynyddoedd.

Ond yn ystod y 18 mis diwethaf mae Cyngor M么n wedi caniat谩u tyrbinau gwynt ar 20 o safleoedd.

Mae ceisiadau ar gyfer 14 safle arall dan ystyriaeth, ond yn ystod y cyfnod yma mae datblygwyr wedi mynegi diddordeb ffurfiol yngl欧n 芒 56 o safleoedd - awgrym fod llawer mwy o geisiadau ar y ffordd.

Un o'r ardaloedd lle mae tyrbinau'n destun dadlau ydi Penmynydd.

Dywedodd un arall sy'n ymgyrchu yn erbyn y tyrbinau, Llinos Edwards:

"Poeni ydan ni fel gr诺p bod Ynys M么n yn mynd i gael ei droi i mewn i ynys ddiwydiannol, hyll iawn, gyda thyrbinau gwynt ar wasgar ar draws yr ynys."

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l map gan y mudiad mae 'na gynlluniau ar droed am dyrbinau mewn sawl ardal ar hyd a lled yr ynys

Map

Mae tri chynllun posib dan drafodaeth yma, gydag un ohonyn nhw ar gyfer tri thyrbin 100 medr o uchder, pedair gwaith yn uwch na Thwr Marcwis sydd i'w weld o'r ardal.

Yn 么l map gan y mudiad mae 'na gynlluniau ar droed am dyrbinau mewn sawl ardal ar hyd a lled yr ynys.

Yn wyneb y llif o geisiadau mae Cyngor M么n wrthi'n llunio polisi newydd ar gyfer cynlluniau ynni gwynt.

Ond cyn i'r polisi yna gael ei dderbyn, maen nhw'n dweud y bydd pobl yr ynys yn cael cyfle i leisio'u barn.