91热爆

Gwynt y M么r: 100 o swyddi i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Fferrm wynt oddi ar arfordir Thanet, Swydd CaintFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y fferm wynt ger arfordir Llandudno yn cynhyrchu 576 MW o drydan

Bydd 100 o swyddi yn cael eu creu am fod porthladd wedi ei ddewis i gynnal a chadw fferm wynt oddi ar arfordir Llandudno.

Dywedodd datblygwyr y cynllun, RWE npower renewables, fod porthladd Mostyn wedi ennill cytundeb gwerth 拢50m i gynnal a chadw fferm wynt Gwynt-y-M么r am 25 mlynedd.

Y ffferm wynt fydd un o'r mwyaf o'i fath yn y byd, gyda hyd at 160 o dyrbeini gwynt yn cael eu gosod 13 chilometr oddi ar yr arfordir.

Bydd y fferm wynt yn cynhyrchu 576 MW o drydan, digon o ynni i gyflenwi 400,000 o dai.

'Croesawu'

Dywedodd Gweinidog Ynni Llywodraeth y DG, Charles Hendry: "Bydd creu dros 100 o swyddi peirianneg yn ddatblygiad i'w groesawu yn y sector hon ac yn dangos nad y porthladdoedd mwyaf yn unig sy'n elwa ar y swyddi a'r hwb i'r economi yn sgil cynhyrchu ynni gwynt ar y m么r."

Dywedodd Cyfarwyddwr prosiect Gwynt-y-M么r ar ran RWE npower, Toby Edmonds: "Rydyn ni'n hapus iawn yn sicrhau mai porthladd Mostyn fydd ein cartref ni am y 25 mlynedd nesa."

Bydd y cwmni yn adeiladu glanfa a chanolfan gweithrediadau a chynnal a chadw ar gyfer cynllun Gwynt-y-M么r.

Dywedodd rheolwr cyfarwyddwr porthladd Mostyn, Jim O'Toole: "Mae cynllun Gwynt-y-M么r yn gyfle i gryfhau ein perthynas 芒 RWE nPower a bydd y cynllun yn cynyddu cyfleoedd gwaith a busnes i borthladd Mostyn a Gogledd Cymru."

Penderfynodd Llywodraeth Prydain ym mis Rhagfyr 2008 y byddai cynllun Gwynt-y-M么r yn mynd yn ei flaen.

Yn 2010 enillodd cwmni Prysmian Cables and Systems o Wrecsam gytundeb gwerth 拢15m i gynhyrchu a gosod ceblau ar hyd yr 11.2 gilomedr o'r traeth i'r cysylltiad 芒'r Grid Cenedlaethol.

Ddydd Mawrth cyhoeddodd RWE npower mai Cammell Laird oedd wedi ennill y cytundeb gwerth 拢5m i helpu adeiladu Gwynt-y-M么r dros y tair blynedd nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol