Porthladd: Cynllun ar gost o 拢100m
- Cyhoeddwyd
Yn Abergwaun mae cynlluniau newydd ar gyfer marina ac angorfa ar gyfer 450 o gychod.
Cwmni Conygar a'r cwmni fferi Stena Line sy'n cyflwyno cais cynllunio yr wythnos hon i Gyngor Sir Penfro ar gyfer codi marina, tai, promen芒d ac ehangu'r porthladd.
Y cwmn茂au sydd hefyd yn gyfrifol am gynlluniau i ddatblygu porthladd Caergybi ar Ynys M么n.
Y gred yw bydd y datblygiad yn costio mwy na 拢100m.
Hwb economaidd
Dywedodd arweinydd y cyngor sir, John Davies, fod porthladd Abergwaun "yn ganolog i economi gogledd y sir".
Mae Ystad y Goron, sy'n berchen ar wely'r m么r ar arfordir Abergwaun, a Chyngor Sir Penfro, sy'n berchen ar lawer o'r porthladd, wedi croesawu'r cynllun.
Dywedodd Neil Jacobson, Pennaeth Gweithrediadau Arfordir Ystad y Goron, y byddai ailddatblygu'r porthladd yn hwb economaidd i'r ardal.
Mae'r cynllun yn cynnwys 253 o fflatiau, a llwyfan 19 erw fel bod modd ehangu porthladd Stena Line.
'Allweddol'
Byddai'r prosiect hefyd yn golygu promen芒d newydd a mwy o lefydd parcio.
Dywedodd Michael McGrath, Cyfrawyddwr Stena Line Talaith y M么r Celtaidd: "Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu'r cynlluniau hyn sy'n allweddol i'n busnes ac i'r economi leol."
Yn 么l arweinydd y cyngor sir, Mr Davies, fod ffydd cwmn茂au mawr yn Sir Benfro yn galonogol.
"Does dim dwywaith fod angen y datblygiad i sicrhau dyfodol y porthladd ac i greu a chynnal swyddi yn yr ardal.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at dderbyn y cais cynllunio gan Conygar a Stena."