Prifysgol: Mwy o wybodaeth ynghylch sgandal fisa

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Dau goleg fydd yn rhan o Brifysgol Cymru o 2012 ymlaen

Daeth mwy o wybodaeth i law ynghylch sgandal fisa yn ymwneud 芒 staff mewn coleg yn Llundain oedd yn un o bartneriaid Prifysgol Cymru.

Mae Asiantaeth Ffiniau'r DU a Heddlu Llundain yn ymchwilio.

Mae 91热爆 Cymru yn deall bod darlithydd ar gyrsiau Prifysgol Cymru yn y coleg wedi bod yn Brif Arholwr bwrdd arholi oedd yn honni y gallai gynorthwyo myfyrwyr i dwyllo.

Mae'n debyg y gallai o leiaf un garfan o tua 90 o fyfyrwyr tramor fod wedi elwa ar 么l sefyll arholiadau ddechrau mis Awst gyda'r atebion ar gyfer yr arholiadau hynny wedi eu cynnig ar werth.

Mae'r sgandal wedi ysgwyd y Brifysgol ac wedi arwain at alwadau ar i'r corff gael ei ddiddymu.

Dywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, fod yr honiadau yn destun ymchwiliad.

Roedd y bwrdd arholi, Professional Qualifications Management, yn cael ei redeg gan Irvin Harris a oedd yn gofrestrydd yng Ngholeg Rayat Llundain, coleg a oedd yn cynnig cyrsiau wedi eu dilysu gan Brifysgol Cymru.

Mewn recordiad dirgel honnodd y gallai gynorthwyo myfyrwyr o dramor i dwyllo eu ffordd tuag at radd Prifysgol Cymru er mwyn cael fisa gwaith i raddedigion, math o fisa na fydd ar gael wedi mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth gohebydd brynu atebion i bapurau arholiad PQM ond wnaeth hi ddim cwblhau'r profion.

Cyngor arholwr

Mynychodd ddosbarth adolygu Surya Medicherla, a oedd, mae'r 91热爆 yn deall, yn brif arholwr PQM ac yn ddarlithydd ar gyrsiau Prifysgol Cymru yng Ngholeg Rayat.

Cafodd y cwestiynau ac atebion i'r wyth modiwl a oedd yn rhan o'r cwrs 15 mis eu dosrannu yn y dosbarth, gyda Mr Medicherla yn dweud wrth y myfyrwyr am y ffordd orau o gwblhau'r profion a beth i'w ddweud pe baen nhw'n cael eu holi gan yr Asiantaeth Ffiniau.

Mae 91热爆 Cymru wedi cael gafael ar ddogfennau a oedd yn dangos bod y papurau yr un fath 芒'r rhai y gwnaeth tua 90 o fyfyrwyr eu sefyll ddyddiau yn ddiweddarach, gyda'r ymgeiswyr i gyd yn cynnig bron iawn yr un atebion.

Pasiodd myfyrwyr gydag atebion a oedd yn cynnwys ymadroddion fel "fe ddylai'r ateb gynnwys" a "mae'r cwestiwn yn gofyn i fyfyrwyr..." gan awgrymu eu bod wedi copio'r taflenni allan air am air.

Mae'r diploma yn caniatau i fyfyrwyr gael mynediad i gwrs MBA prifysgol, a'r hawl i gael eu heithrio o hyd at ddau draean o'r gwaith.

Fe wnaeth y darlithydd annog myfyrwyr i ddefnyddio'r diploma trwy gofrestru ar gyfer cwrs MBA Prifysgol Cymru yng Ngholeg Rayat.

Mewn recordiad cudd honnodd cofrestrydd y coleg, Mr Harris, y gallai gynorthwyo myfyrwyr i dwyllo mewn arholiadau swyddogol Prifysgol Cymru yn y coleg er mwyn cwblhau eu hastudiaethau erbyn mis Ebrill, mewn da bryd i gael gwneud cais am fisa gwaith i raddedigion.

Mae Prifysgol Cymru wedi gwrthod ateb cwestiynau am ei chysylltiadau gyda Choleg Rayat Llundain a'r bwrdd arholi PQM, gan ddweud na fyddai'n gwneud unrhyw sylw wrth i ymchwiliad yr heddlu ac un yr Asiantaeth Ffiniau barhau.

Ond, mewn datganiad newyddion bedwar diwrnod ar 么l darlledu ymchwiliad 91热爆 Cymru, dywedodd fod "...y tystysgrifau (sydd ddim yn rhai Prifysgol Cymru) yr honnir i fyfyrwyr eu derbyn, wedi caniatau iddyn nhw gael credyd er mwyn cael mynediad i gyrsiau gradd mewn unrhyw Brifysgol yn y DU - FFAITH".

Goruchwylio'r bartneriaeth

Mae 91热爆 Cymru wedi derbyn llythyr oddi wrth Brifysgol Cymru at Goleg Rayat Llundain yn rhoi'r hawl i'r sefydliad gofrestru myfyrwyr gyda chymhwyster PQM ar gwrs MBA Prifysgol Cymru gan eu heithrio o'r mwyafrif o'r gwaith.

Ffynhonnell y llun, 91热爆 news grab

Disgrifiad o'r llun, Arwydd cyrsiau Coleg Rayat Llundain

Ysgrifennwyd y llythyr gan David Orford, a oedd yn gweithio i'r Brifysgol fel safonwr, yn gyfrifol am oruchwylio'r bartneriaeth gyda'r coleg.

Deellir bod Mr Orford, a oedd yn Ddeon Cysylltiol Ysgol Busnes Prifysgol Cymru Casnewydd, yn aelod o banel a wnaeth ail-ddilysu cyrsiau yng Ngholeg Rayat Llundain am bum mlynedd ychwanegol ym mis Gorffennaf 2011.

Ysgrifennodd "Gallaf gadarnhau bod Prifysgol Cymru yn derbyn PQM fel cymhwyster derbyniol ar gyfer mynediad uniongyrchol i gamau olaf cwrs MBA, gyda disgwyl y bydd myfyrwyr fel arfer yn astudio dau fodiwl a thraethawd estynedig er mwyn cwblhau'r cymhwyster"

"Mae'r corff cyflwyno/dilysu yn gorfod bod yn un cydnabyddedig a chanddo'r ansawdd a'r safonau addas.

"Mae PQM yn cyrraedd y maen prawf hwn.

"Dwi'n edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau uniongyrchol gan fyfyrwyr sydd wedi derbyn cymhwyster PQM yn y dyfodol."

Dyddiad y llythyr oedd 1 Medi 2011, yr un diwrnod ag y daeth cyflogaeth Mr Orford gyda Phrifysgol Cymru i ben a'r diwrnod y dechreuodd ar ei ddyletswyddau newydd fel Cyfarwyddwr Academaidd Coleg Rayat Llundain.

Nid yw Mr Orford na Choleg Rayat Llundain wedi ymateb i gwestiynau 91热爆 Cymru ynghylch y llythyr.

Mewn datganiad blaenorol dywedodd y coleg fod y sefydliad eisiau pellhau ei hun oddi wrth unrhyw gamweinyddu honedig.

Mae Irvin Harris wedi ymddiswyddo fel cofrestrydd Coleg Rayat Llundain ac fel Prif Weithredwr PQM.

Mae'r Coleg wedi atal y darlithydd Surya Medicherla yn ogystal 芒'u swyddog mynediad, Jalak Mody.

Mae'r tri wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.

Yn y cyfamser mae'r Asiantaeth Ffiniau yn dweud bod eu hymchwiliad yn parhau ar 么l cyfres o gyrchoedd mewn cysylltiad 芒'r stori.

Archwiliadau cyson

"Rydym wedi cynnal ymweliadau 芒 Cholegau Rayat a Lampton ac ar hyn o bryd does dim modd iddyn nhw dderbyn myfyrwyr newydd wrth i'n hymchwiliadau barhau," meddai llefarydd.

"Mae colegau sydd 芒 thrwydded i dderbyn myfyrwyr rhyngwladol, yn gorfod sicrhau bod y myfyrwyr yn mynychu'r cwrs y maen nhw wedi cofrestru ar ei gyfer a'u bod yn cydymffurfio ag anghenion y rheolau mewnfudo.

"Mae'r Asiantaeth Ffiniau yn gwneud archwiliadau cyson ar noddwyr a phan ydym yn canfod tystiolaeth nad ydynt yn cwblhau eu dyletswyddau rydym yn atal neu'n diddymu eu trwydded."

Mae Is-Ganghellorion chwech o'r 10 prifysgol yng Nghymru wedi galw ar i frand Prifysgol Cymru gael ei ddiddymu.

Ac mae tri o'r pum sefydliad sy'n aelodau llawn yn bwriadu cyflwyno eu graddau eu hunain cyn gynted 芒 phosib.

Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi dweud bod angen "claddedigaeth barchus" i'r Brifysgol gan alw ar y Cadeirydd i ymddiswyddo.

Prifysgol Cymru oedd yr ail fwya yn y DU gyda 70,000 o fyfyrwyr mewn 130 o golegau ar draws y byd.

Dywedodd y Brifysgol y byddai'n mabwysiadu strategaeth ryngwladol newydd gan addo adeiladu "prifysgol wedi ei thrawsnewid ar sail llywodraethiant cryf".