91Èȱ¬

Glyndŵr: 'Math newydd o brifysgol'

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Glyndŵr, WrecsamFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bartneriaeth yn dod i rym yn Ionawr 2012

Mae Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, wedi arwyddo cytundeb o fwriad i ffurfio partneriaeth fydd yn creu swyddi.

Bydd y cytundeb rhwng un o is-gwmnïau'r brifysgol - Arloesiadau Glyndŵr - a chwmni A4e yn dod i rym yn Ionawr 2012 os bydd yn cael ei gwblhau.

Nod y bartneriaeth yw annog mwy o bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig i gael addysg uwch.

Fe fydd y cynllun yn sgil y barneriaeth yn defnyddio dulliau arloesol o ddysgu er mwyn taclo dieithrio cymdeithasol.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, yr Athro Michael Stott: "Mewn partneriaeth gyda A4e rydym yn adeiladu math newydd o brifysgol, prifysgol a phartneriaeth sy'n ymateb i'r dirwasgiad ond eto'n ystyried rhoi sgiliau i'r gweithlu.

'Canolbwynt'

"Y myfyriwr yw canolbwynt y model newydd ar gyfer addysg uwch a'n nod yw cefnogi miloedd o bobl sy'n ceisio newid eu bywydau.

"Rydym yn hyderus y bydd y bartneriaeth yn cwrdd â gofynion agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru, yn enwedig o safbwynt Hyfforddiant Sgiliau Addysg Uwch.

"Mae Prifysgol Glyndŵr ac A4e yn rhannu'r un nod - helpu pobl i wella eu bywydau.

"Mewn partneriaeth fe fyddwn yn helpu pobl i gael gwaith ac yn datblygu sgiliau'r gweithlu. Byddwn yn helpu pobl i ddod o hyd i gyfeiriad newydd a newid eu hamgylchiadau.

'Cryfhau'r economi'

"Mae'r brifysgol ac A4e yn rhannu ymrwymiad i gymunedau lleol - ac ehangu partneriaethau rhyngwladol fydd yn dwyn ffrwyth yng Nghymru a thramor."

Dywedodd Prif Weithredwr A4e, Andrew Dutton: "Pwrpas y bartneriaeth yw cryfhau economi'r DU drwy feithrin pobl, eu sgiliau a'u cyfleoedd.

"Rydym yn rhannu cenhadaeth fydd yn helpu pawb i wireddu eu potensial."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol