91热爆

Cyflwyno deiseb Cofnod Cymraeg i鈥檙 Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Adeilad y SeneddFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd y ddeiseb ei chyflwyno amser cinio ddydd Mawrth

Mae Archdderwydd Cymru, cyn Aelod Cynulliad ac awdures wedi cyflwyno deiseb i'r Cynulliad yn galw am gofnodion llawn yn y Gymraeg o holl drafodion y sefydliad.

Fe gyflwynodd T James Jones, Owen John Thomas a'r awdures Catrin Dafydd 1,500 o lofnodion i'r Cynulliad am 12pm ddydd Mawrth.

Mae'r ymgyrchwyr yn galw am sicrwydd y bydd y Cofnod, sy'n nodi ei holl drafodaethau, ar gael yn ddwyieithog.

Yn 么l y ddeiseb, mae'r mesur iaith fel y mae wedi'i ddrafftio yn eithrio'r Cynulliad rhag unrhyw gyfrifoldeb i ddarparu dogfennau yn y Gymraeg - fe fydd yr angen yna yn dibynnu ar gynnwys eu cynllun iaith.

Fe fu'r Cofnod ar gael yn y Gymraeg ers cychwyn y Cynulliad hyd at 2009 ac mae Bwrdd yr Iaith yn honni bod y Cynulliad felly yn torri'r gyfraith gyda'r sefyllfa bresennol.

'Yn ganolog'

"Os yw'r gwleidyddion yn ein Cynulliad o ddifrif am wneud y Gymraeg yn ganolog i waith y corff, peth hollol sylfaenol yw sicrhau mewn statud bod Cofnod eu trafodion ar gael yn Gymraeg," meddai Catrin Dafydd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, cyn cyflwyno'r ddeiseb.

"Mae'n codi'r cwestiwn - pam bod swyddogion wedi llunio bil drafft sydd yn eithrio'r Cynulliad rhag gorfod darparu dogfen mor bwysig 芒 hyn yn ddwyieithog?

"Newid i'r bil hwnnw yw'r unig ffordd o sicrhau nad oes rhaid codi'r ymgyrch yma eto.

"Mae pob corff a chwmni yng Nghymru yn edrych tuag at ein gwleidyddion yng Nghaerdydd am arweiniad ar y Gymraeg. Os na allan nhw gyflawni ar ein rhan, fe fydd y Gymraeg yn dioddef ym mhob rhan o fywyd."

Nid oedd y Cynulliad am roi sylw am y ddeiseb ar hyn o bryd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol