Rali o blaid datganoli darlledu
- Cyhoeddwyd
Yn eu rali flynyddol mae 40 o ymgyrchwyr iaith wedi galw am ddatganoli darlledu.
Dechreuodd y rali am 2.30pm tu allan i stiwdios y 91热爆 yn Wrecsam.
Ymhlith y siaradwyr roedd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, a'r AS Llafur, Ian Lucas.
Yr wythnos hon cyhoeddwyd y byddai mwy na 100 o swyddi'n diflannu yn 91热爆 Cymru.
Mae Adran Ddiwylliant San Steffan wedi cyhoeddi newid yn nhrefn ariannu S4C ac mae'r sianel yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb o 拢100 miliwn y flwyddyn.
O 2013 ymlaen fe fydd S4C yn cael ei hariannu gan y 91热爆 yn rhannol o'r drwydded deledu.
Dywedodd Mr Roberts fod y cynlluniau ar gyfer S4C yn fygythiad i'r iaith.
'Cymryd sylw'
"Mae yna gryn dipyn o gytuno ymhlith pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ynghylch cadw S4C yn annibynnol a dylai gwleidyddion San Steffan gymryd sylw o'r safbwynt yma.
"Nid yw'n dderbyniol bod penderfyniadau ynghylch dyfodol ein hunig sianel Cymraeg yn cael eu cymryd yn Llundain."
Roedd angen cytuno fformiwla ynghylch ariannu'r sianel o 2015 ymlaen, meddai.
"Mae'r sianel yn arf yn y frwydr i sefydlu Cymru'n wlad ddwyieithog ac mae'r cynlluniau presennol yn fygythiad i'n cynlluniau i ddwyn mwy o'n plant i fyny yn Gymry Cymraeg ..."
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae rheolwyr y 91热爆 yn honni eu bod yn achub S4C ond mae'r gorfforaeth yn wynebu toriadau eu hunain ac newydd gyhoeddi y byddan nhw'n torri 2,000 o swyddi.
"Maen nhw hefyd yn gwneud cynlluniau gyda'r llywodraeth am ddyfodol S4C tu 么l cefn y sianel er mwyn penderfynu cyllideb y sianel a'i chymryd drosodd.
"Wel, os hyn yw'r 91热爆 a'r llywodraeth yn achub S4C, pa obaith sydd yna?
"... y neges amlwg yw hyn - nid yw pobl Cymru eisiau'r cynlluniau hyn."
Eisoes mae S4C wedi dweud: "Mae'r trafodaethau rhyngom a'r Adran Ddiwylliant ac Ymddiriedolaeth y 91热爆 yn mynd yn eu blaen.
"Mae annibyniaeth weithredol a golygyddol o dan unrhyw drefniant newydd gydag Ymddiriedolaeth y 91热爆 yn bwysig i S4C ac i'n cynulleidfa."
Hefyd yn annerch roedd Cynghorydd Plaid Cymru, Marc Jones, a'r ymgyrchydd lleol, Nia Lloyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2011