91热爆

'Na' i uno gyda dwy brifysgol

  • Cyhoeddwyd
Gwrthod y symudiad mae llywodraethwyr UWIC, gan fynnu na fyddai'r uno o fudd.Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwrthod y symudiad mae llywodraethwyr UWIC, gan fynnu na fyddai'r uno o fudd.

Mae Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) wedi dweud na fydd yn uno gyda dwy brifysgol arall yn y de ddwyrain.

Mae wedi penderfynu peidio ag uno gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg.

Awgrymwyd yr uniad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), y corff sy'n ariannu prifysgolion Cymru, a ddywedodd y dylid cwtogi nifer y prifysgolion o 11 i chwech.

Mae cynllun Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi'i gefnogi gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Ond ar 么l ymgynghori gyda staff a myfyrwyr, gwrthod y symudiad mae llywodraethwyr UWIC, gan fynnu na fyddai'r uno o fudd.

Dywedoddf Barbara Wilding, cadeirydd y llywodraethwyr: "Mae'r athrofa wedi bod, ac yn parhau i fod, yn ymrwymedig i gryfhau'r system addysg uwch yn y de ddwyrain, yn arbennig yng Nghaerdydd, er budd dysgwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn cwrdd 芒'r heriau sydd i ddod."

Dywedodd yr Undeb Prifysgol a Choleg eu bod yn "pryderu" am y penderfyniad.

Yn 么l llefarydd roedd yr ansicrwydd yn creu pryder ymhlith aelodau'r undeb yngl欧n 芒 swyddi.

Ychwanegodd fod y sefydliad eisoes wedi colli 176 o swyddi dros gyfnod o dair blynedd.

Trafodaethau

Ym mis Mehefin y llynedd, fe gyhoeddodd y gweinidog addysg Leighton Andrews gynllun i ail-strwythuro addysg uwch yng Nghymru, gan ddweud y byddai llai o brifysgolion erbyn 2013.

Bu trafodaethau i uno Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd gyda Phrifysgol Morgannwg yn 2003, ond wnaeth hynny ddim digwydd.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach bu trafodaethau rhwng llywodraethwyr UWIC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol