91热爆

Rhybudd am gyllid bwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r Brifysgol, CaerdyddFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o gyfrifoldebau'r bwrdd yw Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd - ysbyty mwyaf Cymru

Mae pennaeth un o fyrddau iechyd Cymru wedi rhybuddio'i staff fod cyllid y bwrdd mewn cyflwr "difrifol."

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gorchymyn atal recriwtio am y tro, a chyfyngu ar wastraff oherwydd pwysau ariannol "digynsail."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad fod hyn yn adlewyrchu'n wael ar ddull Llafur o reoli'r gwasanaeth iechyd.

Cafodd Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd gais i ymateb.

Un o gyfrifoldebau'r bwrdd yw Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd - ysbyty mwyaf Cymru.

'Ateb yr her'

Mewn rhifyn arbennig o gylchlythyr i staff y mis yma, dywedodd prif weithredwr bwrdd Caerdydd a'r Fro, Jan Williams, bod "sefyllfa ariannol bresennol yn ddifrifol".

"Mae'n rhaid i mi bwysleisio cyn gryfed a phosib yr angen i bawb gydweithio i ateb yr her."

Ychwanegodd fod angen gweithredu ar frys er mwyn ateb y galw cyfreithiol i'r bwrdd dalu ffordd erbyn mis Mawrth nesaf.

Er mwyn gwneud hynny, rhaid i'r bwrdd arbed 拢87.8 miliwn.

Mae cynlluniau eisoes mewn grym fydd yn arbed 拢56.3 miliwn, ond mae Ms Williams yn cyfadde "bod risg ynghlwm a rhai o'r mesurau y bydd rhaid eu rheoli'n ofalus".

'Camreoli'

Fel rhan o weithredu brys, mae'r bwrdd wedi gorchymyn atal unrhyw recriwtio allanol ar unwaith.

Ni fydd pobl yn cael eu cyflogi o'r tu allan heb gymeradwyaeth bersonol y prif weithredwr.

Mae'r bwrdd yn ystyried y gost o gyflogi meddygon dros dro a gweithwyr asiantaeth er mwyn torri costau, ac mae cynllun arall i ryddhau staff yn gynnar yn cael ei gynnig i staff.

Daw hyn mewn cyfnod o bryder yn y Senedd am ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd.

"Mae'r ddogfen yma yn feirniadaeth ddamniol o gamreoli'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gan Llafur," meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

Ymosododd Mr Davies ar Lywodraeth Cymru am beidio cadw gwariant ar iechyd - eitem ddrytaf ei gwariant - yn gyfartal a chwyddiant.

Galwodd hefyd ar y gweinidog iechyd, Lesley Griffiths, i wneud datganiad yn y Senedd.