91Èȱ¬

Gŵyl Womex yn dod i Gaerdydd yn 2013

  • Cyhoeddwyd
Womex 2010 (Llun gan Eric Van Nieuwland)Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Womex yn lwyfan i arddangos cerddoriaeth draddofiadol o bob cwr o'r byd

Fe fydd Caerdydd yn gartref i un o brif ddigwyddiadau cerddoriaeth y byd yn 2013.

Mae'r ddinas wedi ennill yr hawl i lwyfannu Womex wedi blwyddyn o ymgyrchu i ddenu'r atyniad i brifddinas Cymru.

Llwyddodd Caerdydd i guro ceisiadau gan nifer o ddinasoedd gan gynnwys Glasgow a Dulyn oedd ar y rhestr fer.

Mae Unesco wedi disgrifio Womex fel "y farchnad broffesiynol rhyngwladol bwysicaf ar gyfer cerddoriaeth byd o bob math".

Daeth y cyhoeddiad mai Caerdydd sy'n gartref i'r ŵyl mewn cynhadledd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Mercher.

Fe fydd perfformiadau nos, yn ystod y digwyddiad ym mis Hydref 2013, yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Llwyfan rhyngwladol

Bydd digwyddiadau'r dydd, a fydd yn cynnwys ffeiriau, arddangosfeydd ffilm ac ati, yn cael eu cynnal yn Arena Motorpoint Caerdydd.

Mae disgwyl rhyw 60 o gyngherddau gyda 300 o artistiaid, ffair fasnach gyda thua 650 o gwmnïau o dros 90 o wledydd a dros 400 o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhyngwladol.

Fe fydd yr holl ddigwyddiad yn cael ei gynnal rhwng Hydref 23 a 27 2013.

Dywedodd Daniela Teuber, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Womex, eu bod yn falch iawn bod Caerdydd yn gartref i'r digwyddiad yn 2013.

"Mae'r ddinas yn cynnig y lleoliad gwych i'n digwyddiad cymhleth a'r 2,500 o gynrychiolwyr ac artistiaid o bob cwr o'r byd.

"Mae'r partneriaid yng Nghymru yn gwbl broffesiynol ac yn llawn egni.

"Mae'r adeiladau gwych o fewn tafliad carreg i'w gilydd ac yn diwallu'n hanghenion i'r dim.

"Mae gan Gymru gyfoeth diwylliannol arbennig ynghyd â lletygarwch a phrydferthwch naturiol."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae arddangosfa a ffair fasnach yn rhan o'r digwyddiad

Cerdd Cymru oedd yn arwain y cais ar ran Cymru, sy'n bartneriaeth rhwng Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig; Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth Y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth Cymru.

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu'r cyhoeddiad.

"Dyma gyfle gwych i ddod â'r llwyfan cerddoriaeth byd pwysicaf i Gymru yn ogystal â datblygu'r sector a hybu'r sector yma," meddai.

"Fe fydd Womex 13 Caerdydd yn agor y drysau i farchnadoedd newydd ar gyfer cerddoriaeth o Gymru a sicrhau bod traddodiadau cerddorol Cymru yn dod yn fwy cyfarwydd i gynulleidfaoedd rhyngwladol ac yn eu gosod ochr yn ochr â cherddoriaeth ein cefndryd Celtaidd.

"Drwy groesawu Womex gallwn godi proffil ein cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru a thu hwnt."

Mae Canolfan Mileniwm Cymru, Arena Motorpoint Cymru, Cyngor Caerdydd a Cardiff & Co yn bartneriaid i'r digwyddiad.

Copenhagen sy'n cynnal yr ŵyl eleni a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Fe fydd Womex 12 y flwyddyn nesaf yn Thessaloniki, Groeg.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol