Cytuno cynlluniau i ad-drefnu addysg yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi cytuno'n unfrydol ar gynlluniau i ad-drefnu addysg gynradd mewn rhan o'r sir.
Byddan nhw'n cyhoeddi hysbysiad statudol yngl欧n 芒'r cynlluniau ar gyfer ysgolion yn ardal Edeyrnion.
Cytunodd y cabinet hefyd y dylai'r arian a gynhyrchir o adolygu trefn addysg gynradd yn ardal Edeyrnion gael ei ddefnyddio i fenthyca'r cyllid angenrheidiol i gwblhau'r estyniad a'r gwaith adnewyddu yn yr ysgol newydd.
Mae dau gynllun yn cael eu hystyried:
CYNLLUN 1
O dan y cynllun cynta', byddai ysgol ardal yn cael ei sefydlu ar gyfer Cynwyd a Llandrillo.
Byddai hynny'n golygu cau ysgolion Llandrillo a Maes Hyfryd ddiwedd mis Awst 2012.
Byddai'r ysgol ardal newydd yn agor ym mis Medi 2012, gan ddefnyddio safleoedd presennol y ddwy ysgol i ddechrau, cyn symud i un safle yng Nghynwyd petai'r arian ar gael.
CYNLLUN 2
Byddai'r ail gynllun yn golygu y byddai Ysgol Glyndyfrdwy yn cau ei drysau ar Awst 31, 2012, a disgyblion yn cael eu symud i Ysgol y Gwernant, Llangollen, petai rhieni yn ffafrio hynny.
Byddai hyn yn galluogi y byddai modd adleoli i un safle yng Nghynwyd erbyn mis Medi 2014 fan hwyraf.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, sydd 芒 chyfrifoldeb am addysg ar gabinet y sir: "Rydym yn sylweddoli bod 'na bryderon yn y cymunedau hyn am y cynlluniau ac rydym wedi trefnu nifer o gyfarfodydd ymgynghori i drafod y rhesymeg y tu 么l i'r argymhellion.
'Penderfyniadau anodd'
"Rydym hefyd wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori yn dilyn cais i wneud hynny gan y cymunedau hynny.
"Gydag unrhyw ad-drefnu mae 'na o hyd benderfyniadau anodd i'w gwneud ond dyw gwneud dim, yn sicr, ddim yn opsiwn gan fod 'na wir broblemau yn ymwneud 芒 lleoedd gwag, denu prifathrawon a'r defnydd o adeiladau symudol.
"Mae'r cyngor yn ei ystyried yn flaenoriaeth i foderneiddio addysg a chael adeiladau ysgol, adnoddau ac amgylchedd dysgu sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif."
Oes oes unrhyw wrthwynebiad i'r cynlluniau, Llywodraeth Cymru fydd wedyn yn gorfod penderfynu ar y mater.
Os nad oes gwrthwynebiad, Cyngor Sir Ddinbych fydd 芒'r gair ola'.