Coleg Cymraeg: Penodi naw darlithydd ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae naw darlithydd wedi eu penodi i ddarparu modiwlau yn y Gymraeg ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd y naw ym Mangor.
Cafodd y coleg ei sefydlu yn Ebrill 2011 a'r nod yw cydweithio 芒 holl brifysgolion Cymru i gynyddu cyfleoedd i ddilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae wyth darlithydd wedi eu penodi eisoes gydag un penodiad eto i'w lenwi ym maes Gwaith Cymdeithasol.
Prifysgol Bangor enillodd y cytundeb ar gyfer naw swydd darlithio a chwe ysgoloriaeth doethuriaeth gyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor: "Mae'r penodiadau hyn yn arwydd pendant o'n hymrwymiad ni fel sefydliad i ddatblygiad addysg uwch gyfrwng Cymraeg ac mae cefnogaeth arbennig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr."
Cyfansoddi
Bydd y darlithwyr newydd yn dechrau y mis hwn am gyfnod o bum mlynedd.
Un o'r wyth sydd wedi ei benodi yw'r cyfansoddwr Owain Llwyd sy'n arbenigo ar gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm.
Y gweddill yw Dr Paula Roberts fydd yn darlithio mewn Gwyddor yr Amgylchedd, Dr Manon Jones, darlithydd mewn Seicoleg, Dr Ruth Williams, darlithydd mewn Nyrsio, Dr Manon Mathias, darlithydd mewn Ffrangeg, Dr Craig Owen Jones, darlithydd mewn cerddoriaeth boblogaidd, Enlli Haf Huws fydd yn darlithio mewn Cemeg a Dr Myfanwy Davies fydd yn darlithio mewn Polisi Cymdeithasol.