91热爆

Cynganeddwr 'rhyfeddol' yn ennill y Gadair

Gruffudd Antur yn ei Gadair

07 Mehefin 2012

Gwyddonydd gyda gallu cynganeddu "meistrolgar" a "rhyfeddol ac ystyried cyfyngiad oedran y cystadleuwyr" sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2012.

Dyna oedd disgrifiad y beirniaid Rhys Iorwerth ac Ifan Prys o waith Gruffudd Antur, myfyriwr Ffiseg 20 oed ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd Gruffudd, sydd o Lanuwchllyn yn wreiddiol, yn un o'r llond llaw o'r 13 ymgeisydd a roddodd gynnig ar gerdd gaeth ar y thema Cylchoedd ar gyfer y gystadleuaeth.

"Rydw i'n gallu cynganeddau ers ryw wyth mlynedd ond wnes i ddim mynd ati o ddifri tan roeddwn i'n ryw 16 oed pan ddechreuais i gael gwersi gan y Prifardd Elwyn Edwards," meddai.

"Ers hynny, rydw i wedi bod yn tr茂o darllen a deall popeth am y grefft. Dyna'r ffordd i ddysgu, drwy ddarllen," ychwanegodd.

Dewisodd Gruffudd ysgrifennu awdl mewn tair rhan wedi ei ddylanwadu gan y dathliadau i nodi hanner can mlwyddiant darlith Tynged yr Iaith Saunders Lewis eleni.

Meddai: "Mae'r rhan gyntaf yn s么n am ddarlith Saunders Lewis hanner can mlynedd yn 么l. Yna, mae'r ail ran yn s么n am y cylch o fewn Aberystwyth - o gwmpas y Llew Du yn bennaf a Phantycelyn - fel rhyw fath o iwtopia Cymreig, artiffisial i raddau, rhywbeth a fydd yn darfod yn y pen-draw.

"Mae trydedd rhan y gerdd yn s么n am fro ac am ddychwelyd i fro lle mae'r Gymraeg yn gyfrwng iaith bob dydd."

Dywed Gruffudd fod y gerdd yn un sy'n dangos dadrith yn y sefyllfa wrth iddi fynd yn ei blaen, ond, meddai, mae 'na dro positif ar ei diwedd, gyda llais Saunders Lewis i'w glywed eto.

Mae Gruffudd ar ei ail flwyddyn yn astudio Ffiseg yn Aberystwyth ond mae'n dweud mai Cymraeg ydy ei gariad cyntaf.

"Does gen i ddim clem beth rydw i eisiau ei wneud wedyn," meddai, "ond os na fuaswn i wedi dewis gwneud Ffiseg yna mi fuaswn wedi ei golli i gyd - ond wnai fyth golli fy Nghymraeg."

Ac am y cysylltiad rhwng cynghanedd a gwyddoniaeth, dywed: "Mae yna elfen fformiwleig i gynganeddu o'i gymharu 芒'r vers libre - mae'n anodd creu'r s诺n mewn cerdd rydd ond mae'r s诺n yn gofalu am ei hun mewn cynghanedd ... mae'r farddoniaeth yn dod o geisio torri allan o'r caethiwed."

Daeth Gruffudd yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair ddwy flynedd yn 么l ac fe wnaeth hynny ei ysgogi i wella: "Mae rhywun yn edrych yn 么l ar hen gerddi ac yn gwingo," meddai "mae'n siwr y bydda i'n gwneud yr un peth efo hon mewn ychydig flynyddoedd."

Ac mae gan y llanc o Lanuwchllyn gysylltiad personol 芒'r Urdd sy'n werth ei harddel ym mlwyddyn dathlu'r mudiad yn 90 oed hefyd. Mae'n perthyn "o bell" i sefydlydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, y mae cerflun ohono i'w weld yn sefyll gyda'i dad, O M Edwards, ym mentref Llanuwchllyn: "Heb y ddau berson hwnnw fyddai'r Urdd ddim yn bodoli, ac mae yna falchder o ddod o bentref sy'n perthyn i'r llinach hwnnw," meddai Gruffudd.

Ei uchelgais r诺an ydy ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol mewn blynyddoedd i ddod "ond dim am flynyddoedd lawer!" ychwanegodd - mae ganddo bum mlynedd arall cyn y bydd yn rhy hen i gystadlu yn yr Urdd!


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Dysgu

Merch yn adolygu

Bitesize TGAU

Nodiadau adolygu, gweithgareddau a phrofion i fyfyrwyr TGAU.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.