91热爆

Ffawd - Cwmni Theatr Urdd Gobaith Cymru

Criw Ffawd

Nos Fawrth a Mercher, 26 a 27 Mai, roedd theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm dan ei sang ar gyfer perfformiad Cwmni Theatr Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru o 'Ffawd'.

Awduron y sioe - sydd wedi ei gosod mewn tref glan y m么r, ac yn delio gyda rhai o'r problemau cymdeithasol sy'n wynebu ein hieuenctid heddiw - yw Siwan Jones, Catrin Dafydd, a Tudur Dylan Jones. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Dyfan Jones, Caryl Parry Jones, Huw Chiswell ac Eric Jones.

Ma'n sioe gerdd newydd sbon a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd 2009, gyda Carys Edwards wrth y llyw fel cyfarwyddwr artistig y sioe.

Carys fu hefyd yn gyfrifol am lwyfannu Les Miserables y tro diwethaf i Eisteddfod yr rdd ymgartrefu yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2005. Ers hynny, mae Cwmni Theatr yr Urdd wedi tyfu o nerth i nerth, a 'Ffawd' yn benllanw cynllun tair blynedd y Cwmni, gyfa chast y sioe yn bobl ifanc o bob cwr o Gymru.

Cast ifanc, talentog

Roedd ambell wyneb cyfarwydd ymysg cast ifanc y cynhyrchiad - Lois Meleri Jones a Ffion Llwyd (actoresau yn y gyfres deledu i bobl ifanc, Rownd a Rownd, ar S4C) a Ianto Phillips (prif-leisydd y band ifanc addawol, Nos Sadwrn Bach) yn eu mysg.

Wrth edrych ymlaen at y sioe, dywedodd Aled Sion,Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: "Gyda chast o 100, fe fydd 'Ffawd' yn rhoi cyfle i ieuenctid o Gymru ben baladr i droedio llwyfan byd-enwog theatr Donald Gordon" - ac er fod y llwyfan a'r theatr yn un fyd-enwog, roedd y sioe yn deilwng o'i lle arno.

Sioe dda, ond ychydig yn hir?

Cafwyd perfformiadau cryf, mewn stori oedd yn trafod tor-priodas, pynciau amgylcheddol, mewnfudo a sawl pwnc arall, ond roedd bron i bawb a holwyd wedi'r sioe yn dweud pethau digon tebyg - perfformiadau a chynhyrchiad da, ond fod y stori ar y cyfan ychydig yn wan ac yn ymwneud a gormod o bynciau, a'i fod yn rhy hir!

Rhaid cyfaddef fod ambell i ran o'm corff yn dechrau syrthio i gysgu o fod wedi eistedd yn llonydd cyhyd! Tybed fyddai'r sioe wedi elwa o olygu a thynhau rhywfaint ar y sgript, symleiddio pethau o ran nifer y pynciau a godwyd?

Er gwaethaf hynny, roedd y gynulleidfa yn amlwg wedi mwynhau, ac ambell i olygfa a ch芒n wedi cael y dorf i chwerthin yn uchel - yn enwedig c芒n merched y W.I. a golygfeydd Alex (Leah Elisabeth Gaffey) a Terry (Ianto Llwyd Phillips) y mewnfudwyr oedd yn dysgu siarad Cymraeg. Roedd fel gwylio ailymgnawdoliad o 'Frank a Frank', gyda'u treigliadau chwithig a cham-ynganiadau!

Cafodd y cast ganmoliaeth twym-galon ar ddiwedd y perfformiad, a gadawsant y llwyfan gyda'r gynulleidfa ar eu traed yn cymeradwyo.

Wrth edrych nol ar y sioe wedi'r perfformaid olaf, dywedodd Lois Meleri Jones - un o aelodau'r cast: "Profiad anghygoel oedd cal bod yn rhan o gynhyrchiad afiaethus fel hon, profiad yn ei hun oedd cael perfformio ar y llwyfan enwog yma gyda ffrindiau talentog iawn o bob rhan o Gymru!"

Lluniau actorion y prif gymeriadau

Edrych ymlaen at y cynhyrchiad, a rhai o'r prif gymeriadau.


91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.