Ar ôl blwyddyn o baratoi tuag at y daith gerdded noddedig i Cancer Research UK ym Mheriw, llwyddais i'w chwblhau fis Mai, 2005.
Gyda llawer o gefnogaeth, cyrhaeddais y targed ariannol o £3,500 i'r elusen a llwyddo i gyrraedd cyfanswm o £7,000.
I godi pres, cawsom ddwy noson lwyddiannus iawn yn Celtica, Machynlleth; y gynta gyda'r grŵp Estella o Flaenau Ffestiniog yr haf diwethaf, a'r ail gydag ocsiwn fis Tachwedd yn cynnwys eitemau a gefais gan fusnesau ac unigolion lleol.
Codwyd cyfanswm enfawr o £2,700 yn noson honno.
Trwy gydol y flwyddyn ddwetha rwyf wedi codi arian drwy wneud car boots, taith gerdded noddedig yn Nolgellau a jyst holi pobol yn dwll am bres!!!
Yn uwch ac yn uwch Ar ôl hyn i gyd, daeth yr amser i wneud y daith gerdded noddedig fawr tuag at Machu Picchu ym Mheriw!
Er iddi fod yn sialens galed yn gorfforol, roedd y golygfeydd a'r cwmni da yn fy nghadw i gerdded yn uwch ac yn uwch!
Roedd cyrraedd maes awyr Lima yn brofiad ynddo'i hun gyda'r holl anhrefn.
Mae'r 'smog' neu niwl enwog sy'n gorchuddio'r ddinas yn rhoi teimlad tywyll i'r ddinas, a'r arogl o bysgod yn llethol!
Dwi'n falch o ddeud na wnaethom ni aros yn Lima am fwy na noswaith!
Y bore wedyn, aethom yn syth ymlaen i baratoi am y diwrnod cyntaf o gerdded yn y Sacred Valley a oedd yn amgylchu Maccu Piccu ei hun.
Roedd y noson gyntaf o wersylla yn ffantastig a'r gyntaf a welais pan ddeffrais y bore wedyn yn anhygoel gyda'r lliwiau yn newid wrth i'r haul wawrio.
Dyma'r math o olygfa y byddwn yn dod i arfer â hi dros y chwe diwrnod nesaf!
Noson hir o fod yn sâl Erbyn y trydydd diwrnod, yn anffodus, mi roedd na fyg stumog yn y gwersyll ac, yn amlwg, mi daliais i o!
Ar ôl noson hir iawn o fod yn sâl mi benderfynodd y doctor, yn anffodus, ei bod hi'n berig imi gerdded yn uwch y diwrnod hwnnw gan fy mod mor wan.
Roedd y siom yn un enfawr ond wrth imi stryglo i gerdded lawr y mynydd i'r camp i ddal y bws i'r dref agosaf, sylweddolais mai hwn oedd y penderfyniad gorau.
Profiad anhygoel Roedd cyrraedd uchafbwynt y daith yn Machu Picchu yn brofiad anhygoel nid yn unig oherwydd y sialens gorfforol ond o achos gweld ymateb pawb oedd wedi cael ei effeithio gan gancr yn eu bywydau.
Mi roedd y daith yma i mi ac i bawb oedd yno yn deyrnged i bawb sydd wedi cael ei effeithio gan gancr, bydded yn aelod o deulu, neu'n ffrind.
Mae Cancr yn afiechyd sy'n llawer rhy gyfarwydd i bawb ac mi roedd cwrdd â chymaint o bobol gyda straeon hapus a thrist yn gwneud imi sylweddoli i'r holl brofiad fod yn un hollol werth chweil.
Dwi'n gobeithio ymweld a Pheriw eto i gael cyfle I archwilio Cusco ymhellach ac i ymweld aâ Llyn Titicaca.
Mae'n wlad brydferth gyda phobol gyfeillgar dros ben.
|