91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
91热爆 CymruMosgito, Pethau personol

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Contact Us

Iselder

Iselder

Iselder yw'r gair Cymraeg am 'depression'.

Mae pawb yn teimlo'n isel weithiau

Does neb yn teimlo'n hapus bob dydd. Ond os wyt ti wedi bod yn teimlo'n drist iawn am wythnosau ac wedi colli dy wmff, falle bo' ti'n diodde o iselder.

Beth yw iselder? Yn aml, mae rhywun sy'n diodde o iselder yn teimlo'n drist ac yn dda i ddim. Ac ma' nhw'n teimlo fel hyn am amser hir. Falle byddwn ni'n colli pwysau neu'n rhoi pwysau mlaen, yn teimlo'n ddiegni, yn methu canolbwyntio ac yn teimlo fel neud dim byd. Yn aml, rydyn ni'n cael trafferth cysgu.

Rydyn ni'n rhoi'r gorau i'r pethau r么n ni'n arfer mwynhau: mynd mas, gweld ffrindie a llawer o bethau eraill. Falle byddwn ni'n yfed gormod o alcohol neu'n potsian 芒 chyffuriau. Does dim byd yn ein gwneud ni'n hapus. Mae'n teimlo fel bod cwmwl mawr du yn hongian dros ein pennau drwy'r amser.

Pam fod pobol yn diodde o iselder? Mae llawer o bethau'n gallu achosi iselder. Gall stres neu brofiadau gwael arwain at iselder. Mae'n gallu rhedeg yn y teulu hefyd. Mae rhai pobol yn tueddu i deimlo'n isel yn naturiol - fel 'na ma' nhw.

Pam nad ydyn nhw'n gallu codi'u calon? Mae'r holl symptomau sy'n rhan o iselder yn gallu gwneud i fywyd edrych yn ddu iawn. Er enghraifft, os wyt ti wedi colli dy wmff, ti ddim am fynd mas ond os nad wyt ti'n mynd mas, ti'n dechrau teimlo'n unig - sy'n gwneud pethau'n waeth byth.

Mae hyn yn meddwl bod hi'n anodd iawn i 'godi calon' hyd yn oed os ydyn ni'n trio'n gorau glas.

Ble galla i droi? Mae moddion a thabledi ar gael sy'n gallu helpu pobol i deimlo'n well yn gyflymach. Mae'r rhain yn cael eu galw'n antidepressants.

Ond, fel arfer, dyw meddygon ddim yn hoffi rhoi'r rhain i bobol ifanc. Cer i siarad 芒'r meddyg. Mae meddygon yn gweld pobol sy'n diodde o stres ac iselder bob dydd. Byddan nhw'n meddwl dy fod di'n dda am sylweddoli bod rhywbeth yn bod a gofyn am help.

Os wyt ti'n meddwl bo' ti'n teimlo'n isel ... Mae sawl peth galli di neud.

Siarada 'da rhywun rwyt ti'n ei drystio. Mae'n well siarad ag aelod o'r teulu os wyt ti'n gallu.

Tria fwyta'n iach a dilyn deiet cytbwys sy'n cynnwys llysiau a ffrwythau ffres. Llysiau gwyrdd yw'r peth pwysica. Hyd yn oes os nad wyt ti'n ffan mawr, mae'n debyg bod llysiau gwyrdd yn dda ar gyfer gwella iselder.

Cer i'r gym. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod gwneud ymarfer corff yn aml yn cael yr un effaith 芒 rhai mathau o dabledi sy'n gwella iselder. A does dim un tabled yn mynd i roi pen-么l pert i ti yn y fargen.

Paid yfed alcohol, smygu na defnyddio cyffuriau. Cliria dy ben. Mae'n bryd meddwl yn gall.

Cer i weld y meddyg. Mae hyn yn fwy pwysig na dim. Bydd y meddyg yn gallu rhoi cyngor i ti. Falle bydd e'n awgrymu bo' ti'n mynd i weld cynghorydd neu therapydd. Mae'r arbenigwyr hyn yn ein helpu i weld beth sydd wedi mynd o'i le a phenderfynu sut mae gwella pethau.

Dim dy fai di yw e bo' ti'n teimlo'n isel. Dyw gofyn am help ddim yn meddwl bo' ti'n berson gwan. Mae'n meddwl bo' ti ishe dechrau byw dy fywyd 'to.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy