![mynd at y meddyg](/staticarchive/093ce98a872bd264f695712ba61f59b3a1e1f8b3.jpg)
Pryd ddylen i fynd i weld y meddyg? Os wyt ti'n teimlo'n s芒l a ddim yn si诺r beth sy'n bod; os wyt ti wedi cael unrhyw symptomau am bythefnos neu fwy; neu os wyt ti'n becso am dy iechyd. Galli di fynd i weld y meddyg os wyt ti'n teimlo'n isel hefyd.
Oes rhaid i fi ddweud wrth mam a dad?
Na - bydd popeth rwyt ti'n ei ddweud wrth y meddyg yn cael ei gadw'n gyfrinachol. Ond bydd y meddyg yn dweud wrth rywun arall os yw e' neu hi'n meddwl bo' ti mewn perygl.Sut mae gwneud apwyntiad
- Ffonia'r feddygfa neu cer mewn i wneud apwyntiad. Rho dy enw, a dwed bo' ti am wneud apwyntiad i weld meddyg.
- Galli di ddod o hyd i'r feddygfa agosa trwy edrych ar wefan
- Os wyt ti am weld meddyg sy'n fenyw neu gael apwyntiad ar 么l ysgol, dwed hynny.
- Paid synnu os na fyddi di'n gallu cael apwyntiad am sawl wythnos.
- Os wyt ti'n teimlo'n s芒l iawn, gofynna pryd mae'r feddygfa ar agor i achosion brys. Hynny yw, yr amserau y galli di fynd i'r feddygfa ac aros nes bod y meddyg yn rhydd.
- Os wyt ti'n teimlo'n rhy s芒l i fynd i'r feddygfa, gofynna i'r meddyg ddod i dy weld di gartre.
Beth os ydw i'n rhy swil i ddweud beth sy'n bod? Does dim angen i ti deimlo'n swil. Mae meddygon wedi gweld a chlywed popeth, a dyn nhw byth yn teimlo'n anghyfforddus. Os wyt ti'n swil iawn, dwed hynny wrth y meddyg a bydd e'n gwneud ei orau glas i helpu ti i ymlacio.
Falle byddai'n werth i ti ysgrifennu rhestr o gwestiynau i'w gofyn i'r meddyg fel bo' ti ddim yn anghofio unrhyw beth ac yn cael ateb i'r holl bethau sy'n dy boeni di.
Cysylltiadau defnyddiol
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.