![Acne](/staticarchive/5cbcbbaac69f65c92f580cea6b0910221928d8a5.jpg)
Oes sbots 'da ti? Hoffet ti groen gl芒n ac iach? Os felly darllena 'mlaen...
Beth yw acne? Rydyn ni'n cael acne pan fydd y chwarennau (glands) yn y croen sy'n cynhyrchu olew yn cael eu blocio ac yn troi'n goch ac yn gas. Yn Saesneg mae'r glands yma'n cael eu galw'n sebaceous glands. Fel arfer, rydyn ni'n cael acne yn y mannau lle mae llawer o'r glands yma, sef ar ein gwyneb, ein cefn a'n brest.
Pam bod acne 'da fi?
- Horm么ns - wrth i ni dyfu'n h欧n a chyrraedd ein harddegau, mae'r glands yn ein croen yn cynhyrchu mwy o olew. Felly, mae'n fwy tebygol y bydd y glands yn blocio ac yn achosi acne.
- Y math o groen sydd 'da ni - mae'r math o groen sydd 'da ni yn dibynnu ar y math o groen sydd gan ein rhieni. Diolch mam a dad!
- Amser y mis - mae llawer o ferched yn gweld bod acne'n waeth yn y diwrnod neu ddau cyn eu bod nhw'n dod arno.
- Stres - mae stres yn gallu gwneud unrhyw broblemau sy'n effeithio ar y croen yn waeth. Ymlacia.
Sut alla i gael gwared ar fy sbots? Fel arfer, mae acne'n clirio wrth i ni dyfu'n h欧n, ond pwy sydd ishe aros tan hynny?
Cer i weld beth sydd ar gael yn y fferyllfa yn gyntaf. Mae rhai o'r pethau y galli di brynu dros y cownter yn dda iawn. Rhaid i ti fwyta'n dda ac yfed digon o dd诺r hefyd. Mae'n werth cofio'r pethau hyn hefyd:
- Paid pigo a gwasgu dy sbots - bydd hynny'n gwneud pethau'n waeth ac fe allan nhw adael craith, yn enwedig os wyt ti'n defnyddio dy ewinedd.
- Golchi - golcha dy wyneb ddwywaith y dydd gyda d诺r cynnes, a'i sychu trwy wasgu tywel drosto'n ysgafn. Paid sgrwbio dy wyneb - mae hynny'n gwneud i'r croen gynhyrchu mwy o olew.
- Paid gwisgo colur - yn enwedig colur fel concealer a foundation sy'n ceisio cuddio'r sbots. Dwyt ti ddim yn twyllo unrhyw un. Ac maen nhw'n gwneud dy groen di'n waeth. Cadwa'r colur ar gyfer y diwrnodau pan rwyt ti wir ishe edrych ar dy orau. Gwna'n si诺r bod unrhyw golur rwyt ti'n ei wisgo yn "non-comedogenic".
Os nad yw pethau'n gwella cer i siarad 芒'r meddyg. Mae gwahanol fathau o eli a thabledi ar gael sy'n gallu helpu i glirio acne. Falle bydd y meddyg yn barod i roi presgripsiwn i ti.
Celwydd dwl: Mae siocled a sglods yn achosi acne: Ddim yn wir. Dyw'r olew ar ein croen ddim yn dod o'r olew sydd yn ein bwyd.
Mae acne'n dy wneud di'n hyll: Cer i ddweud hynny wrth Cameron Diaz neu Scarlett Johansen.
Cysylltiadau defnyddiolNid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.