Biennale Fenis
Mae pedwar artist - Richard Deacon o Fangor, Merlin James o Gaerdydd a Heather ac Ivan Morison o Arthog ger Dolgellau yn cynrychioli Cymru yn arddangosfa Cyngor Celfyddydau Cymru 'Fel 'na mae', yn Biennale Fenis eleni. Mae'r arddangosfa yn cynnwys cerfluniau, paentiadau, serameg a ffilm.
Cliciwch trwy'r lluniau isod i weld cynnwys yr arddangosfa ac i ddysgu fwy am waith yr artistiaid yn un o brif ddigwyddiadau celf y byd. Agorodd yr arddangosfa i'r cyhoedd yn Ex-Birreria Giudecca, Fenis ddydd Sul, Mehefin 10 2007. Darparwyd y wybodaeth a'r lluniau gan dîm Biennale Fenis Cymru.
Dyddiadur Elen Bonner o Fenis: Artist preswyl bu'n gweithio gyda Heather ac Ivan Morison
|