Arddangosfa artistiaid Cymru yn Biennale Venice 2007.
Mae Elen Bonner yn cadw dyddiadur o'i phrofiadau yn Fenis ar y wefan hon.
Mae cael gweithio gyda Heather ac Ivan Morison, sy'n cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2007 yn fraint fawr. I artist ifanc fel fi sydd newydd adael coleg llynedd, mae'n gyfle unigryw i ddatblygu fy nghrefft a dysgu gydag artisitiaid gorau ein gwlad.
Clywais fod Cymru yn Fenis 2007, a bod Celf Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyfle amhrisiadwy i ddau artist ar gychwyn eu gyrfa i fod yn rhan o un o'r digwyddiadau pwysicaf yn y calendr celfyddydau gweledol cyfoes y byd, drwy fod yn artistiaid dan fentoriaeth i gynorthwyo datblygiad gwaith celf y Morisoniaid ar gyfer arddangosfa Fel 'na mae: Artistiaid o Gymru yn Biennale Fenis 2007. All geiriau ddim disgrifio pa mor awyddus yr oeddwn i gael y cyfle yma.
Fel y rhan fwyaf o bobl ifanc fy nghenhedlaeth i, roedd rhaid i mi weithio mewn swydd naw-tan-bump mewn swyddfa ddigon diflas yng Nghaergaint lle y bum yn astudio i gael arian. Cyn gynted ag y gwelais yr hysbyseb ar wefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, dyma yrru fy enw i mewn. (Dwi ddim yn meddwl fod fy mhennaeth yn y swyddfa yn gwybod beth goblyn yr oeddwn yn s么n amdano pan soniais am y cyfle. Doedd hi'n sicr ddim yn disgwyl i mi gael fy newis. Dyna pam mae'n si诺r iddi gefnogi fy nghais!)
Cwrdd 芒'r Morisoniaid
Awyrgylch tra wahanol oedd yn fy nisgwyl yn Arthog ger Dolgellau. Aethom am dro gyda Heather ac Ivan Morison o amgylch y goedwig ble roeddent yn bwriadu creu celfwaith o bren. Roedd yn braf cael paned o de mewn cwpan a soser ar ryg yn y goedwig, ble y buom yn trafod y cyfle a'u gweledigaeth. Disgrifiodd y ddau eu taith diweddar i Galiffornia ble y cawsant eu hysbrydoli gan y bobl nomadaidd wreiddiol a deithiai drwy'r Unol Daleithiau mewn tai-tr媒c o goed a'r 'Rockhounds'. Ar eu taith, fe wnaethon nhw ymweld 芒 thref Quartzsite, Arizona lle brynon nhw grisial "pyrite" neu "aur ffwl" a fyddai'n dylanwadu yn fawr ar y gwaith mewn golwg.
Ar y ffordd yn 么l i dde Lloegr, roedd fy ngwynt yn fy nwrn a finnau yn awchu i droi'n 么l am y goedwig yn syth. A dyna fu. Roeddwn ar ben fy nigon pan glywais fy mod wedi cael fy newis. Ymhen yr wythnos yr oeddwn yn 么l ac wedi ymgartrefu mewn bwthyn bach ar fferm Abergwynant, lle bu^m yn cydfyw gyda'r artist preswyl arall, Pascal-Michel Dubois o Nelson ger Caerffili.
Dysgodd y ddau ohonom lawer am ffordd y Morisoniaid o weithio. Mae na lawer iawn o ymchwil y tu 么l i'w gwaith a hynny yn ran pwysig iawn o'r cyfanwaith.
Ein prif waith ni oedd dysgu a helpu i greu dau strwythyr o bren, ar ffurf y crisial o Arizona. Bydd un o'r celfweithiau yma'n rhan o goedwig Arthog am flynyddoedd i ddod, a'r llall yn helpu rhoi Cymru ar y map yn Biennale Fenis sydd ar agor i'r cyhoedd tan ddiwedd Tachwedd 2007.
Creu'r gwaith celf
Ond bu'n waith caled iawn. Rwy'n cofio deffro ynghanol nos yn ystod fy noson gynta yn y bwthyn. Prin y gallwn symud gan fod fy nghorff mor stiff. Am yr wythnosau cyntaf, buom yn tyrchu'r tir a chreu sylfaen ddibynadwy. Yna dysgom sut i roi'r coed drwy'r felin a sut i roi'r pren at ei gilydd i wneud ffurf pendant. Er mai'r cwbwl oedd gennym oedd y tamaid o grisial sydd ddim yn fwy na chwpwl o fodfeddi, roeddwn yn hoff iawn o'r ffordd yr oedd Ivan a Heather yn gweithio. Daeth dau o'u ffrindiau sydd hefyd yn artisitaid i'n helpu i gychwyn ar y gwaith.
Cymerodd hi tua pedair wythos i greu'r fframiau ar gyfer y gwaith yn Arthog a Fenis. Ar un pwynt roedd tomenni o bren wedi eu gosod yn ofalus yn ein hamgylchynnu.
Felly i fyny ac i lawr y mynydd drwy'r fforest 芒 mi, dro ar 么l tro rhwng naw y bore a saith yr hwyr, gan gario tameidiau o bren ar gyfer y celfwaith yn y goedwig (un o sgil effeithiau'r swydd yma yw fod gen i gryn gyhyrau erbyn hyn!)
Un o uchafbwyntiau y diwrnod oedd ymgynnull am sgwrs dros baned a Chelsea Bun Dolgellau sy'n fyd enwog. (Mae dad yn aml yn teithio o Dregaron i Ddolgellau i gael un!)
Un o'r pethau rhyfedda am ein cyfnod yn Arthog oedd y tywydd. Cawsom haul crasboeth am fis. Dim ond unwaith yn ystod y mis y glawiodd o gwbwl diolch byth, neu mi fyddai'r gwaith wedi bod yn dipyn caletach.
Tra yr oeddem ni yn creu'r celfwaith o bren, roedd Heather ac Ivan hefyd yn gweithio gyda Matthew Higginbottom i greu delwedd o'r crisial ar y lun a fyddai'n cael ei ddangos ar sgrin fawr yn Fenis. Unwaith y gwelom y gwaith yma, disgynnodd y darnau i gyd i'w lle, roedd popeth yn gwneud synnwyr.
Buom yn gweithio yn erbyn y cloc i gael corff y strwythur cynta yn ei le er mwyn i ni fynd allan i Fenis i greu yr ail.
Creu'r celfwaith yn Fenis
Doedd creu yr ail un ddim mor hawdd, a nifer o ffactorau gwahanol i'w hystyried gan gynnwys fod rhaid creu si芒p i ffitio'r lleoliad ac hefyd i weddu gyda arddangosfa Cymru yn hen Fragdy ynys Giudecca, Fenis. Roedd rhaid i'r to dyfu allan o dan y canopi.
Gan fy mod wedi bod yn warchodwr arddangosfa Cymru yn Fenis yn 2005, roedd gen i syniad fwy neu lai beth i'w ddisgwyl. Roeddwn wedi cael mis yn cyd fyw a rhannu profiadau gyda gwarchodwyr eraill o Iwerddon a'r Alban. Roeddem fel criw wedi joio mas draw!
Y tro yma roedd y gwaith yn galed a'r pwysau i ni ddarfod ein gwaith mewn pryd yn fawr iawn. Dim ond pythefnos oedd gennym i ailgreu celfwaith Arthog yn Fenis. Gyda chefnogaeth Richard Robinson y technegydd, gallwn weld y golau ar ddiwedd y twnel. Roedd yn bwysig hefyd bellach i ni weld ein gwaith fel rhan o ddarlun ehangach ac i gydfynd gyda gwaith y ddau artist arall, sef Merlin James a Richard Deacon. Gan mai ni oedd y cyntaf i gyrraedd y lleoliad, roeddem yn dibynnu llawer ar welediageth Hannah Firth, curiadur Cymru yn Fenis.
Sawl sialens i'w goroesi
Cawsom sawl sialens, ac ambell i ffactor diwylliannol i'n dal yn 么l, roedd yn rhaid bod yn dawel rhwng un a thri y prynhawn i barchu y cyfnod siesta! Ar un pwynt roeddwm yn pryderu na fyddem yn darfod y gwaith mewn pryd.
Mae' ffantastig i fod yn yn 么l yma yn Fenis yr wythnos hon i weld ffilm "Seren Dywyll" a chelfwaith "Ynys yr Hud" wedi eu darfod. Rwy'n hynnod falch o'n gwaith ac mae'n sicr o helpu i roi Cymru ar fap celf y byd! Y prif wahaniaeth rhwng y strwythur yn Fenis a Dolgellau yw fod yr "Ynys Ffantasi yn Nolgellau yn rhyw fath o ystafell y gallwch gerdded i mewn iddi. Er fod ffenestri aml liw ar yr un yma yn yr Eidal, mae'r debl bren yma wedi ei selio, ac yn creu awydd ymysg y gwylwyr i fod eisiau mynd i mewn. Os yw pobol yn ddigon awyddus i fedru mynd i mewn, bydd rhaid iddyn nhw ddod i Gymru ac i'r goedwig yn Arthog!
Gan Elen Bonner