Ymchwil Pellach
05 Ionawr 2009
Bydd llawer o'ch ymchwyl yn cael ei wneud mewn archifdai, llyfrgelloedd, canolfanau arbennigol, neu ar y rhyngrwyd.
Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol
Fel arfer y cam nesaf ydy mynd at fynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol sef y (GRO) Index. Ers 1837, pan ddaeth cofrestru sifil yn orfododol, mae mynegai'r GRO wedi cofnodi pob genedigaeth, priodas neu farwolaeth yng Nghymru a Lloegr.
Mae genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn cael eu rhestru mewn adrannau gwahanol o'r indecs a than 1984, roedden nhw'n cael eu cofrestru fesul chwarter blwyddyn: Gwanwyn (mis Mawrth); Haf (mis Mehefin); Hydref (mis Medi); a Gaeaf (mis Rhagfyr). Gall Swyddfa'r Ystadegau Cenedlaethol (ONS) roi gwybod i chi lle mae'ch mynegai lleol chi - yn eich llyfrgell leol er enghraifft.
Cyfrifiad y Deyrnas Unedig
Pob deng mlynedd, mae Cyfrifiad yn cael ei gynnal ym Mhrydain, i gyfrif yr holl bobl a chartrefi. Mae Cyfrifiad yn cofnodi enw, oed, statws priodasol, gwaith pawb oedd yn byw yn y t欧 pan gymerwyd y Cyfrifiad, yn ogystal 芒 dangos beth yw eu perthynas 芒'r penteulu.
Cyfrifiad 1841 oedd y cyntaf i gofnodi gwybodaeth am unigolion (er fod cyfrifiadau wedi dechrau yn 1801) ar Cyfrifiad diweddaraf sydd ar gael ydy un 1911. Fel rheol, dyw manylion Cyfrifiad ddim yn cael eu cyhoeddi i'r cyhoedd am 100 mlynedd ar 么l iddyn nhw gael eu casglu, ond cafodd manylion Cyfrifiad 1911 eu rhyddhau gwpwl flynyddoedd yn gynt na'r disgwyl yn dilyn datganiad rhyddid gwybodaeth.
Mae Cyfrifiad 1911 ar gael ar y we ac fe allwch chi lwytho gwybodaeth oddi arno, dim ond ichi dalu. Mae'r Ganolfan Cofnodion Teuluol hefyd yn cadw gwybodaeth y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ac mae cop茂au hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd neu swyddfa gofnodion y sir.
Weithiau, fe fydd cymdeithasau hanes teulu lleol hefyd yn cadw mynegai defnyddiol o atebion y Cyfrifiad yn yr ardal.
Cofrestri Plwyf
Os ydych chi'n chwilio am dystiolaeth am enedigaethau, priodasau neu farwolaethau cyn 1837, rhaid troi at gofnodion yr Eglwys gan mai yma fyddai pob bedydd, priodas neu gladdedigaeth yn cael eu cofnodi nes daeth cofrestru sifil i fodolaeth.
Mae Family Search yn rhan o fersiwn ar-lein Mynegai Achyddol Rhyng-genedlaethol (IGI) Eglwys Iesu Grist ar Saint Diweddar. Mae'r IGI (International Genealogical Index) yn adnodd byd-eang syn cynnwys gwybodaeth am enedigaethau a phriodasau yng Nghymru a Lloegr. Mae'n deillio o gofrestrau plwyfi cyn 1837 ac yn rhoi cyfle i ymchwilwyr rannu gwybodaeth ar y we. Mi allwch ei ddefnyddio yng nghanolfannau hanes teuluol Eglwys Iesu Grist ar Saint Diweddar, neu mewn llyfrgelloedd mawrion a swyddfeydd cofnodion sirol.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn un o'r prif ffynonellau gwybodaeth yng Nghymru. Gallwch chwilio trwy gopiau microffis o fynegion y Cofrestrydd Cyffredinol i enedigaethau, priodasau a marwolaethau o 1837 - 1998, yn ogystal a gwybodaeth ar gyfrifiadur o 1984 - 2000.
Y ychwanegol i fynegion y Cofrestrydd Cyffredinol, mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gopiau microffurf o gofnodion Cyfrifau Cymru o 1841 - 1911, cofrestri plwyf, a nifer o ffynonellau defnyddiol eraill i olrhain hanes teulu.
Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnig gymorthfeydd hanes teulu - sef sesiynau un-i-un yn cynorthwyo darllenwyr sydd angen arweiniad ar ble i chwilio ymhellach a sut i wneud y gorau o gasgliadau a gwasanaethau'r Llyfrgell Genedlaethol. Cynhelir y cymorthfeydd pob dydd Mercher, a gellir archebu sesiwn 30 munud. I archebu lle ffoniwch 01970 632 821 neu e-bostiwch cymorthfeydd@llgc.org.uk
Yn ogystal a hyn, mae gan y Llyfrgell arddangosfa ar Hanes Teulu yn cychwyn fis Mawrth 2009, ac yn rhedeg am 12 mis. Bydd yr arddangosfa y'n canolbwyntio ar y ffynonellau cyfoethog sy'n bodoli yn y Llyfrgell er mwyn chwilota i hanes teulu.
Cyrsiau a Chymdeithasau
Mae hel achau erbyn hyn yn boblogaidd iawn a chynigir cyrsiau mewn llyfrgelloedd, colegau a phrifysgolion. Mae gwybodaeth am y rhain i gyd ar gael gan eich awdurdod addysg lleol neu chwiliwch am fanylion mewn cylchgronau hel achau neu hanes teuluol.
Mae cymdeithasau hanes teuluol hefyd yn ddefnyddiol iawn a phwy a 诺yr na fydd rhywun arall yno'n ymchwilio i hanes eich teulu chi hefyd!
Y We Fyd Eang
Mae'r we yn adnodd cyffrous ac mae cyfoeth o safloedd ardderchog ar gael ar achyddiaeth a hanes teulu. Dyma ffordd wych o rwydweithio, sef cysylltu efo pobl eraill 芒 diddordeb yn y maes a chael gwybodaeth ar yr un pryd. Fe allwch chi ddefnyddio'r we hefyd i gael cofnodion swyddogol fel rhai'r Cyfrifiad, cronfeydd data neu feddalwedd arall i greu eich coeden deulu.
Mwy
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Radio Cymru'n cofio digwyddiadau mawr y degawdau ar foreau Sadwrn.