Yr Arwisgiad
Y noson cyn yr arwisgiad roeddwn i wedi teithio o'r swyddfa yng Nghroesoswallt i aros noson yng nghartref fy rhieni ym Mhen Ll欧n er mwyn bod yn nes i Gaernarfon.
Cofiaf gael fy neffro'n gynnar drannoeth gan ddarllenydd newyddion ar y radio yn cyhoeddi fod dau ddyn wedi eu lladd gan fom yn Abergele, yn agos at y rheilffordd lle'r oedd y teulu Brenhinol i fod i deithio. Wrth imi yrru'n nes i Gaernarfon roedd rhesi di-dor o gerbydau milwrol y naill ochr i'r ffordd, yn cynnwys rhai o'r pedair mil o filwyr oedd wedi eu lleoli yn Llandwrog ers wythnosau. Roeddwn yn gorfod parcio yn un o'r meysydd arbennig yr ochr arall i Bont yr Aber cyn cerdded trwy'r Maes, oedd eto'n frith o blismyn a milwyr. Hwyrach mai'r jeans oedd yn gyfrifol, ond roeddwn i'n cael fy atal byth a hefyd gan rywun oedd yn gofyn am weld fy ngwahoddiad a gwneud imi wagio fy mhocedi. Yr unig beth o bwys oeddwn i'n ei gario oedd pecyn bwyd i'm cynnal tan ddiwedd y perfformiad - unwaith yr oeddech chi yn eich sedd doedd dim hawl i adael. Go brin y cafodd yr un brechdanau caws a banana eu harchwilio mor aml nag mor drylwyr.
Tameidiog ydi fy atgofion am weddill y diwrnod. Rwy'n cofio gweld rhes o ASau Cymru, gan gynnwys Elystan Morgan, Goronwy Roberts, Cledwyn Hughes a Wil Edwards, yn eu siwtiau bol adar; cofio George Thomas yn darllen rhyw broclamasiwn mewn Cymraeg canoloesol di-fai, nes iddo alw "gwialen aur" yn "wialen awr"; a chofio criw o Americanwyr croch yn cynhyrfu'n l芒n wrth weld "our Trish", sef merch yr Arlywydd Nixon. Roeddwn i'n sylwi'n arbennig ar G么r Godre'r Aran, oedd hefyd wedi ei rwygo gan wahoddiad i gymryd rhan nes i'r aelodau bron i gyd blygu i ewyllys eu harweinydd, Tom Jones, oedd yn daer dros fod yno. Doedd pob un ddim yn canu.
Yn eistedd ar un ochr i mi yng nghornel y wasg roedd Albanwr o'r enw Orr, gohebydd ar bapur lleol, oedd yn gwneud ebychiadau digon amharchus a gweriniaethol ond ar yr un pryd yn sgwennu'i adroddiad hynod glodforus am y gweithgareddau. Yr ochr arall i mi roedd dyn tal, byrwallt, cyhyrog a allai'n hawdd fod yn aelod o'r Heddlu Cudd. Tybed oedd o yno i gadw golwg ar ohebydd papur peryglus Y Cymro? Cynyddodd fy amheuon pan gefais gipolwg ar y gwahoddiad swyddogol oedd yn ei boced: "Mr Welshman".
Am flynyddoedd roeddwn i dan yr argraff fy mod unwaith wedi cael fy ystyried yn fygythiad i ddiogelwch y deyrnas. Ac yna, mewn sgwrs efo dyn o Gaernarfon ryw ddeng mlynedd yn 么l, digwyddais ddweud yr hanes gan ychwanegu na welais i neb erioed oedd 芒'r cyfenw "Welshman". "Mi wnes i," meddai'r cyfaill. "Maen nhw'n deulu mawr yng Nghaernarfon!" Ie, hen flwyddyn felly oedd 1969.
Ioan Roberts, Gohebydd y Cymro yn 1969.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.