Dydd Gwener y 13eg
Mae dydd Gwener y 13eg yn cael ei ystyried gan lawer fel diwrnod anlwcus, ond beth yw cefndir yr ofergoel yma?
Mae'r ofn o ddydd Gwener 13eg yn cael ei alw yn paraskavedekatriaphobia, gair sydd yn deillio o ddilyniaint o'r geiriau Groegaidd 笔补谤补蝉办别惫铆 sydd yn golygu Gwener, a 诲别办补迟谤别铆蝉 sydd yn golygu tri ar ddeg, wedi ei ychwanegu at 辫丑辞产铆补 sy'n golygu ofn.
Mae'n debyg, yn 么l haneswyr, does dim tystiolaeth ysgrifenedig o ofergoeledd yn ymwneud 芒 'dydd Gwener y 13eg' cyn y 19eg ganrif, a bod y cyfeiriad cofnodedig cynharaf yn Saesneg i'w gael ym mywgraffiad y cyfansoddwr Gioachino Rossini yn 1869. Mae'r bywgraffiad yn dweud fod Rossini, fel llawer o Eidalwyr eraill, yn ystyried dydd Gwener fel diwrnod anlwcus, a'r rhif tri-ar-ddeg fel rif anlwcus. Bu farw Rossini ar ddydd Gwener, y 13eg o Dachwedd 1868.
Fodd bynnag, mae llawer o l锚n gwerin yn cael ei phasio ymlaen ar lafar, ac mae sawl damcaniaeth wedi cael eu cynnig am darddiad ofergoel dydd Gwener y 13eg.
Honnir mewn un o'r damcaniaethau ei fod yn gyfuniad o ddau ofergoel llawer h欧n: fod tri ar ddeg yn rif anlwcus a fod dydd Gwener yn ddiwrnod anlwcus - y ddau ofergoel oedd Rossini yn credu ynddynt.
Mae ofergoel hefyd ei fod yn deillio o'r Swper Olaf neu chwedl Norwyaidd, a fod cael tri ar ddeg o bobl o gwmpas bwrdd am olygu marwolaeth un o'r ciniawyr. Mae rhai Cristnogion yn credu taw Jiwdas Iscariot - y disgybl a fradychodd Iesu Grist - oedd yr olaf, neu'r 13eg, i eistedd wrth y bwrdd yn y Swper Olaf.
Credir i ddydd Gwener gael ei ystyried fel diwrnod anlwcus ers o leiaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac fe groeshoeliwyd Iesu Grist ar ddydd Gwener - dydd Gwener y Groglith.
Arferion gwerin
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.