Hanes Ardal y Gadlas
topParhad o hanes ardal y fro rhwng Conwy a Dinbych.
Tua'r dwyrain wedyn i gyfeiriad Dinbych mae pentref Henllan. Mae'r 'hen eglwys' sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref yn unigryw yn yr ardal oherwydd ei th诺r sydd fel caer fechan ar wah芒n i'r eglwys ei hun. Dywedir y gellid clywed clychau'r eglwys yn well yma nac yn yr eglwys ei hun ers talwm.
Coel arall yw bod ysbryd yn nhafarn Llindir yn y pentref. Adeiladwyd y dafarn yn 1229. Dywedir fod ysbryd merch yn crwydro yma a'i bod yn byw yma dri chan mlynedd yn 么l pan oedd capten llong yn berchen ar y dafarn.
Yn ystod y cyfnodau hir hynny pan oedd ei g诺r allan ar y m么r, byddai Sylvia yn godinebu gan ddenu'r bechgyn lleol i'w gwely. Ond un noson stormus fe'i daliwyd yn godinebu gan ei g诺r pan ddychwelodd adref yn annisgwyl. Llamodd ar y gwely a thrywanu ei wraig yn ei chalon. Wrth i Sylvia erfyn am faddeuant fe'i tagwyd i farwolaeth.
Ers hynny dywedir bod ysbryd yn dal i grwydro Llindir mewn gwisg las. Credir erbyn heddiw mai nid ysbryd Sylvia yn unig sy'n crwydro yma ond bod ysbryd ei g诺r hefyd yn tarfu ar y rhai sy'n ymweld 芒'r dafarn.
Dirgelwch beddrodau Brenig
Tua'r de wedyn mae Llyn Brenig, cronfa dd诺r mewn dyffryn a foddwyd yng nghanol rhostir Mynydd Hiraethog.
Yma ceir llwybr archeolegol sy'n cysylltu nifer o gofebau sy'n dyddio o rhwng 2000CC a thua 1500CC, sef yr Oes Efydd. Codwyd y rhain gan bobl oedd yn byw yn y dyffryn cyn ei foddi.
Wrth gerdded ar hyd y llwybr gellir gweld nifer o arwyddion sy'n dangos lleoliad beddrodau crwn mawr. Hefyd gellir gweld dwy 'deml' gron sydd wedi eu hail-greu sef 'Carnedd Gylchog' ar lan y llyn a 'Charnedd Lwyfannol' sydd wedi ei lleoli mae'n debyg i sicrhau golygfa eang o'r ardal.
Dengys tystiolaeth hanesyddol mai dim ond tuag ugain o bobol a gladdwyd yn y safle cysegredig hwn mewn cyfnod o tua phum canrif. Mae hyn yn parhau'n dipyn o ddirgelwch hyd heddiw. Yn fwy na dim mae'n ddirgelwch pam y treuliodd y bobl oedd yn byw yma yn yr Oes Efydd gymaint o amser gan ddefnyddio cymaint o lafur i droi'r tir hwn yn lle i gladdu'r meirwon.
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.