91热爆

Storm Fawr 1859

top
Storm

Sut wnaeth storm fawr 1859 newid gynlluniau Llandudno, gan sicrhau mai fel tref glan m么r boblogaidd ac nid y prif borthladd o Gymru i'r Iwerddon y byddai'n datblygu.

Yr hanesydd lleol Tom Parry sy'n disgrifio sut i storm fawr 1859 newid cynlluniau Llandudno gan sicrhau mai fel tref glan m么r boblogaidd ac nid y prif borthladd o Gymru i'r Iwerddon y byddai'n datblygu.

Ar 25 Hydref 1859 fe gododd storm enfawr ar hyd arfordir Prydain a chollodd mwy nag 800 o bobl eu bywydau a drylliwyd dros 200 o fadau.

Yn bendant y drychineb fwyaf oedd colli'r Royal Charter, y Llong Aur ym Moelfre. Yn wir hyd heddiw adnabyddir y storm fel un y Royal Charter. Roedd y drychineb yma, a cholli dros 400 o fywydau yn ei sgil, yn hawlio'r penawdau i gyd gan fwrw digwyddiau eraill y diwrnod hwnnw i'r cysgod.

Ond cafodd y storm effaith enfawr ar dref Llandudno hefyd a hynny mewn cyfnod o newid mawr. Roedd yr hen ddiwydiant copr yn dod i ben ac yn dilyn Deddf Cau'r Tir 1845 ac roedd tref glan m么r gyfoes yn datblygu ar dir corsiog Morfa Rhianedd. Roedd Llandudno yn tyfu'n gyflym fel tref newydd ac fe fyddai'r storm yn sicrhau'r datblygiad hwnnw.

Pier Llandudno
Pier Llandudno (c) 1859

Tua'r un adeg lansiwyd cynllun mawr Harbwr San Si么r gyda'r bwriad o redeg y rheilffordd i'r traeth ac adeiladu harbwr yno i elwa o fasnach o'r Iwerddon ac allforio glo o byllau Sir Ddinbych.

I'r diben hwn adeiladwyd pier gerllaw safle presennol y Grand Hotel. Gyda dyfodiad y rheilffordd gellid fod wedi sefydlu porthladd i Iwerddon naill ai yng Nghaergybi, Porthdinllaen neu Landudno. Roedd hi'n dipyn o gystadleuaeth rhwng y porthladdoedd wrth reswm gan fod y wobr yn un fawr i'r porthladd llwyddiannus.

Ar fore'r 25ain o Hydref 1859 roedd nerth y gwynt o'r gogledd orllewin yn cynyddu'n gorwynt ac yn hyrddio tonnau enfawr i Fae Llandudno. Mae un llygad-dyst o'r cyfnod yn disgrifio'r tonnau fel mynyddyddoedd yn rhuo i'r bae ac yn chwalu ar safle bresennol y promen芒d. Roedd ewyn gwyn fel niwl dros y bae wrth i gorwynt yrru'r tonnau tuag at y lan. Roedd hyd yn oed llongwyr profiadol o'r farn na welwyd tonnau fel hyn o'r blaen ym Mae Llandudno.

Mae un llygad-dyst o'r cyfnod yn disgrifio'r tonnau fel mynyddyddoedd yn rhuo i'r bae ac yn chwalu ar safle bresennol y promen芒d.

Tom Parry

Bryd hynny, roedd rhes o dai to gwellt wrth ymyl safle presennol Gwesty'r Washington. Fe'u chwalwyd gan y tonnau a gorfu i'r trigolion ddianc am eu bywydau. Disgrifia un llygad-dyst fwrdd ar ei ben i lawr yn cael ei gludo i'r m么r.

Curwyd y pier newydd yn ddidrugaredd. Malwyd y gwaith pren yn briciau m芒n gan wasgaru'r gweddillion ar hyd y traeth. Mae'r adroddiad yn s么n fel y codwyd y tollborth gan don a'i adael ar ochr ddwyreiniol y traeth.

Pier Llandudno heddiw
Pier Llandudno heddiw

Roedd y difrod yn ddigon i chwalu cynlluniau adeiladu porthladd newydd yn y dref. Wrth i'r pier ddymchwel diflannodd holl obeithion y dref i gystadlu 芒 Chaergybi fel lleoliad y datblygiad newydd. O hynny ymlaen pentref glan m么r fyddai Llandudno ac nid y prif borthladd i'r Iwerddon.

Wrth gwrs, roedd y trigolion ar y pryd yn siomedig iawn pan sylweddolwyd na fyddai'n bosib gwireddu cynllun Harbwr San Si么r. Oni bai am y noson honno, fe fyddai hanes y dref o bosib yn hollol wahanol a thref arall fyddai'n hawlio'r teitl 'Brenhines'.

Cyhoeddwyd gyfraniad Tom Parry yn wreiddiol ar wefan 91热爆 Lleol.


[an error occurred while processing this directive]

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.