Llongddrylliad y Royal Charter
topA hithau bron 芒 chyrraedd pen y daith ar 么l mordaith hir o Melbourne, Awstralia, fe hwyliodd y Royal Charter 芒 452 o deithwyr a chriw a gwerth 拢320,000 o aur o fwyngloddiau Awstralia, i ganol storm enbyd wrth droi am F么n.
Suddodd y llong st锚m, Royal Charter, ar 25 Hydref 1859 ger pentref Moelfre ar Ynys M么n ar ei thaith adref i Lerpwl. Mel Evans sydd 芒'r hanes:
"Ar 么l brwydro trwy F么r Iwerddon, galwodd y Capten am gymorth peilot Lerpwl ger Point Lynas, ond roedd y m么r yn rhy arw iddo fo fynd ar fwrdd y Charter. Roedd gan y Capten ddau ddewis - naill ai troi am Lerpwl ond heb gymorth y peilot, neu aros lle roedd a chysgodi rhag y tywydd enbyd ym Mae Moelfre.
"Dewisodd gysgodi ond fe falodd angor y llong dan y straen gan hyrddio'r Royal Charter ar y creigiau oddi ar Moelfre. Roedd y tonnau mor fawr nes i'r llong hollti'n ddwy ar y creigiau hanner canllath o'r lan.
"Taflwyd pawb i'r m么r heblaw am 32 o deithwyr a laddwyd wrth iddyn nhw gael eu hyrddio'n erbyn y creigiau. Roedd llawer o'r teithwyr ar eu ffordd yn 么l i Gymru ar 么l bod yn gweithio ym mwyngloddiau aur Awstralia, ac fe geisiodd llawer ohonynt adael y llong a nofio i'r lan a'u pocedi yn llawn aur! Bu farw dros 500 o bobl o ganlyniad i'r llongddrylliad.
"Am wythnosau ar 么l y drasiedi roedd trigolion Moelfre yn dal i ddod o hyd i gyrff ar y traethau. Codwyd garreg goffa i'r trueniaid flynyddoedd yn ddiweddarach ar graig uwch ben y m么r ac arni'r geiriau canlynol: "I gofnodi diwedd taith y Royal Charter ac er cof am y rhai hynny a fu farw."
"Gerllaw ym 1939 bu trychineb arall pan suddodd yr HMS Thetis ag adeiladwyd ym Mhenbedw tra'n cael ei dreialu ar y m么r. Methodd y llong danfor 芒 dod i'r wyneb ym Mae Lerpwl. Dim ond pedwar o'r criw a lwyddodd i ddianc cyn i'r d诺r lifo drwy'r drws argyfwng a llenwi'r llong gan gaethiwo'r 99 o aelodau'r criw a sifiliaid. Cafwyd hyd i'r llong yn ddiweddarach a'i symud i Draeth Bychan i'w hadnewyddu ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach yn ystod yr Ail Ryfel Byd dan yr enw HMS Thunderbolt."
"Wrth gwrs mae'r gymuned ym Moelfre wedi bod yn gefn mawr i'r Bad Achub a sefydlwyd yno yn ddiweddarach. Mewn agos i 150 o flynyddoedd, llwyddwyd i achub dros 600 o fywydau. Un o arwyr enwocaf y bad oedd Dic Evans. Un hanes arbennig ydy stori'r Hindlea a'r criw o wyth a hyrddiwyd ar greigiau Moelfre mewn gwyntoedd cryfion o dros 100 milltir yr awr a hynny union gan mlynedd ar 么l colli'r Royal Charter."
Ym mis Hydref 2011 bydd arddangosfa arbennig yn Nghaer yn dangos am y tro cyntaf o weddillion y llong o dan y don. Erys nifer o greiriau o hyd -pistolau, cyllyll a ffyrc, platiau a geriach personol y teithwyr. Roedd y Royal Charter yn long ysblennydd yn ei dydd ond nawr mae'n pydru'n araf ar waelod y m么r.
Cyhoeddwyd gyfraniad Mel Evans yn wreiddiol yn 2004 ar wefan 91热爆 Lleol.