Hanes Bro Ffestiniog
topWedi symud o Flaenau Ffestiniog, tref fwyaf sir Feirionnydd o ran poblogaeth, dyma gyrraedd Trawsfynydd, sef plwyf mwyaf y sir o ran maint.
Yn 么l traddodiad, Llanednowain oedd hen enw ar y plwyf, ac Ednowain oedd pennaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn ystod cyfnod Gruffydd ap Cynan. Eto, ceir golygfeydd ardderchog o gyffiniau'r pentref hwn, gyda mynyddoedd y Rhinogydd, y Moelwynion, Aran Fawddwy a Chadair Idris yn amgylchynu'r fro.
Rydym eisoes wedi trafod un neu ddau o hynafiaethau plwyf, ond mae'r plwyf yn gysylltiedig 芒 llawer mwy o hanes. Mae Llech Idris yn gyfarwydd iawn, fel ag y mae Bedd Porus a Chwpan Trawsfynydd - crair o'r ganrif gyntaf O.C.; Castell Prysor, yn y cwm o'r un enw, a Sam Helen - yr hen ffordd Rufeinig, sy'n croesi tir y plwyf, a dyna ychydig i gnoi cil drostynt. Hen blwyf, yng ngwir ystyr y gair, ydi Trawsfynydd, neu'r Traws i drigolion pob oes. Mae'r lle yn fan geni nifer fawr o enwogion Cymru.
Un o'r rheiny oedd John Roberts, 'Y Merthyr', a aned yn 1577, yn Rhiw Goch, un o gartrefi hynafol Trawsfynydd. Hefyd, pa Gymro gwerth ei halen sydd heb glywed am Hedd Wyn o'r Ysgwrn, fferm a saif ar lwybr hen ffordd Cwm Prysor? Saif cerflun er cof amdano ar sgw芒r y pentref .
Mae Trawsfynydd yn dal i fod yn ganolfan ddiwylliedig, a chorau, cymdeithasau diwylliannol a nifer o fudiadau yn ffynnu yma. Cynhaliwyd y Gymdeithas Gymroaidd yn y plwyf cyn belled yn 么l 芒 1824, a dywedir i ddeg ar hugain o bobl ifainc fod yn hyddysg yn y cynganeddion yma yn 1825. Cynhelir dwy eisteddfod lewyrchus hyd heddiw, Eisteddfod Stesion, ac Eisteddfod Llawrplwy' a Phenstryd.
Daeth tro ar fyd i'r ardal amaethyddol hon pan agorwyd y gwersyll milwrol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ac wedi cau hwnnw, yr Atomfa gerllaw yn 1964. Dyma'r unig orsaf niwclear ym Mhrydain i'w chodi ar dir heb fod ar yr arfordir. Cyflogwyd hyd at 2,700 yn ystod cyfnod yr adeiladu, a bu dros 600 o weithwyr yn yr atomfa am dros 30 mlynedd. Bu i honno gau yn 1995, ac ar hyn o bryd, mae'r gwaith dad-gomisiynu yn ei anterth.
Maentwrog a'r Mabinogi
Ar waelodion dyffryn Ffestiniog, ar lannau afon Ddwyryd, fe ddown at Faentwrog, pentref hynafol arall. Ym mhen uchaf y plwyf saif Tomen y Mur, 芒 chyfnodau gwahanol o hanes yn perthyn i'r safle. Fe'i codwyd fel castell mwnt a beili gan yr Eingl Normaniaid ar safle hen gaer Rufeinig a fu yma ganrifoedd ynghynt. Fe gawn ein hatgoffa o bwysigrwydd y lle y dyddiau fu yn chwedlau'r Mabinogi - y Mur y Castell hwnnw, a chysylltiadau 芒 Gronw Befr a chartref Blodeuwedd.
Atgof arall o'r chwedl am Flodeuwedd yw'r garreg dyllog sy'n sefyll rhwng Bryn Saeth a Llech Ronw, y dywedir iddi fod wedi cael ei thyllu gan waywffon Lleu Llaw Gyffes pan daflwyd honno trwy'r llech a lladd Gronw Bebr.
Cysegrwyd eglwys y plwyf wreiddiol i Sant Twrog yn 么l yn y 6ed ganrif, ond dan ddylanwad y Normaniaid bu'r cysegru'r Santes Fair, gan ei gwneud yn un o'r ychydig eglwysi a gysegrwyd i ddau sant. Un o drigfannau y plwyf yw Plas Penglannau, ger Gellilydan, cartref John Lloyd, y 'Twrnai Llwyd' (1787 - 1856).
Er nad yw'r t欧 ei hun ond ychydig dros gant a hanner o flynyddoedd oed, roedd Cefnfaes a safai ar y safle cyn hynny yn dyddio'n 么l ganrifoedd. Ond roedd preswylydd Penglannau, John Lloyd yn 诺r hynod ddiddorol. Roedd yn hynafiaethwr o fri, a chasgliad enfawr o hen greiriau yn eiddo iddo, casgliad a chwalwyd i bedwar ban byd wedi'i farw, yn cynnwys Cwpan Trawsfynydd o'r unfed ganrif O.C.
Ymysg plasdai mawr Maentwrog gwelir Plas Tanybwlch, hen gartref teulu'r Oakley, perchnogion rhai o chwareli Ffestiniog. Fe brynwyd y plas gan gyngor sir Gwynedd yn y 1970au, ac fe'i defnyddir heddiw fel canolfan er lles y cyhoedd yn gyffredinol.
Vivian Parry Williams
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.