Diflaniad Stanislaw Sykut
topCrynhoad o hanes diflaniad Stanislaw Sykut yng ngeiriau Hywel Jones, un o drigolion pentref Cwmdu. Roedd tad Hywel Jones yn un o'r prif lygad dystion yn yr Achos Llys ym 1954.
Cefndir
"Dim ond 12 o bobol oedd yn byw yn y pentref ar y pryd, a doedd neb yn gwybod beth oedd amgylchiadau'r diflaniad ac hyn yn oed hyd heddiw mae'n parhau yn ddirgelwch.
"Fe gafodd partner busnes Stanislaw Sykut, sef Michal Onufrejczyk ei gyhuddo ar y pryd o'i ladd a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes. Serch hynny ni chafwyd hyd i gorff, dim cyfaddeddiad a dim tystiolaeth.
"Daeth nifer o Bwyliaid i Brydain ar 么l yr Ail Ryfel Byd, oherwydd y perygl iddyn nhw yn eu gwlad eu hunain o gael eu dal gan y Rwsiaid a'r Comiwnyddion. Daeth Stanislaw Sykut i Gymru. Prynodd fferm Cefn-hendre yng Nghwmdu ger Llandeilo gyda'i bartner busnes, Michal Onufrejczyk, a oedd hefyd yn dod o wlad Pwyl.
"Roedd y fferm mewn cyflwr gwael pan brynodd Stanislaw Sykut ei si芒r ef yn 1953 ac ar 么l chwe mis roedd e am werthu ei gyfran oherwydd yr holl waith caled oedd angen ei wneud i gynnal y fferm ac i sicrhau gwneud elw. Yn y cyfnod hwn roedd anghytuno rhwng y ddau bartner ac roedd hynny'n amlwg i bentrefwyr Cwmdu.
Y Diflaniad
"Yn y dyddiau cyn ddiflaniad Sykut yn mis Rhagfyr 1953 fe'i welwyd o gwmpas y pentref. Dydd Llun, Rhagfyr 14eg oedd y tro diwethaf y'i gwelwyd yng Nghwmdu, a hynny gan of y pentref. Credai rhai mai'r noson honno y llofruddiwyd Sykut. Ond does dim tystiolaeth bendant yn profi hynny.
"Dywedodd Onufrejczyk mai'r tro diwethaf iddo ef i weld ei bartner oedd ar ddydd Gwener, Rhagfyr 18fed pan ddaeth tri Pwyliad dieithr yn y car i'r fferm yng nghanol y nos yn gyrru car mawr. Roedd un ddynes yn y pentref yn gallu tystio i hyn, gan iddi hithau weld y car hwn yn pasio am ddau o'r gloch a phedwar o'r gloch y bore, wrth i olau'r car fflachio i mewn i'w hystafell wely. Stori Michal Onufrejczyk oedd fod y tri dyn o wlad Pwyl wedi dod i gipio Sykut gyda gwn a'i gymryd yn 么l tu n么l i'r Llen Haearn.
Dirgelwch Coelcerth
"Holwyd Onufrejczyk ym mis Ionawr 1954 pan ddywedodd ei fod wedi dweud wrth yr Heddlu am ddiflaniad Sykut ym mis Rhagfyr. Ond roedd gan rhai o bentrefwyr Cwmdu adroddiadau gwahanol o'r hyn a wnaeth Michal Onufrejczyk. Soniodd y postman am goelcerth a welodd ar fferm Gefn-hendre ond dechreuwyd meddwl mai llosgi corff ei bartner yr oedd er mwyn cuddio'r dystiolaeth. Ond wedi archwiliad fforensig daethpwyd i'r casgliad nad oedd unrhyw olion o'i gorff ar y t芒n.
"Bu pentrefwyr Cwmdu yn rhoi cymorth i'r heddlu i chwilio am gorff Sykut, roedden nhw'n bryderus iawn amdano.
Amau euogrwydd
"Arestiwyd Onufrejczyk ar Awst 19 1954 ac ymddangosodd yn Llys yr Ynadon Llandeilo . Dadleuwyd gan yr Erlyniad ei bod yn amhosib i brofi achos o farwolaeth heb gorff. Gan nad oedd corff wedi cael ei ddarganfod nid oedd yna dystiolaeth glir o lofruddiaeth na marwolaeth.
"Aeth yr achos ymlaen yn Llys yr Ynadon Llandeilo tan Fedi 27, 1954 ac yna gohiriwyd tan fis Tachwedd 1954 ac aed 芒'r achos i Abertawe.
"Ar Ragfyr 1af, wedi gwrandawiad hir, daeth y rheithgor i'r casgliad fod Michal Onufrejczyk yn euog ac fe'i ddedfrydwyd i farwolaeth. Ond ni wisgodd y barnwr ei gap du, ac roedd hyn yn arwydd o'i amheuaeth. O'r herwydd apeliwyd i Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, William Lloyd George ac enillwyd yr ap锚l. Yn hytrach na chael y gosb eithaf, aeth Onufrejczyk i garchar am ddeg mlynedd. Credai'r Ysgrifennydd Cartref fod yna elfen o amheuaeth yn yr achos. Bu yng ngharchar Wakefield am bedair blynedd ac yn Wormwood Scrubs am chwech.
Dychwelyd i Gwmdu
Does neb yn mynd i wybod y gwirionedd am ddiflaniad Stanislaw Sykut ... Ac mae yna amgylchiadau amheus iawn i farwolaeth Michal Onufrejczyk hefyd.
Hywel Jones
"Pan cafodd ei ryddhau o'r carchar ar Fai 26, 1966 ymwelodd 芒 Chwmdu ac aeth i weld pob un o drigolion y pentref. Honnodd bod Sykut yn fyw ac yn iach ac roedd ei lun wedi ymddangos mewn papur newydd Comiwnyddol yn 1958. Dywedodd nad oedd wedi anafu Stanislaw Sykut mewn unrhyw fodd a'i fod wedi treulio deg mlynedd mewn carchar am drosedd nad oedd wedi ei chyflawni.
"Dyma oedd ei ymweliad olaf 芒 Chwmdu. Mae yna amgylchiadau amheus iawn i farwolaeth Michal Onufrejczyk hefyd. Bu farw yn Bradford, lle bu'n byw mewn cartref i'r henoed, tra yr oedd yn dychwelyd o'r Offeren ar ddydd Gwener y Groglith 1967. Cafodd ei daro gan gar ar stryd dawel ond ni stopiodd y gyrrwr.
"Does neb yn mynd i wybod y gwirionedd am ddiflaniad Stanislaw Sykut gan bod llawer o amheuon am yr achos."
Yn haf 2006 daeth gor 诺yr i Stanislaw Sykut draw i Gwmdu ar wahoddiad Hywel Jones, i weld lle yn union bu ei hen ddad-cu yn byw cyn iddo ddiflannu ac i gyfarfod rhai o drigolion y pentref oedd yn cofio am yr Achos.
Hywel Jones
Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol yn 2005 ar wefan 91热爆 Lleol.