91热爆

Canol Dyffryn Teifi

top
Gwesty Glynhebog, Llambed

Hanes canol Dyffryn Teifi gan Eifion Davies. Mae'r ardal yn cynnwys y fro rhwng Llanfair Clydogau yn y gogledd a Llanllwni yn y de.

Mae'r ardal hon yn rhan o ddwy sir, sef Ceredigion a Chaerfyrddin. Yn y canol saif tref Llanbedr Pont Steffan, neu Llanbed - er ar lafar, fel Llambed yr adnabyddir y dre.

Diddorol yw sefyllfa'r pentrefi, bron yn ddi-eithriad yn agos i afon. Rhed yr afon Teifi drwy Lanfair, Cellan, Cwmann, Pencarreg, Llanybydder, Maesycrugiau a Llanllwni. Daw'r afon 'Dulas' wedyn o Langybi drwy Betws Bledrws a Silian i ymuno 芒'r Teifi yn Llanbed. Y 'Grannell' drwy Capel y Groes a Llanwnnen cyn ymuno 芒'r Teifi dipyn yn uwch na phentref Alltyblaca; daw'r 'Cledlyn' o Gorsgoch drwy Gwrtnewydd, Drefach a Llanwenog i ymuno 芒'r Teifi yn Rhuddlan; yr eithriad yw pentre Cwmsychbant sy'n sefyll ar y drum rhwng afonydd y 'Cledlyn' a'r 'Clettwr'.

Swyddfa Golwg yn Llanbed

Ardal wledig yn dibynnu yn helaeth ar ffermio, a'r gwaith ynghlwm 芒 ffermio, yn bennaf sydd yma. Ond yn ogystal ymhlith y cyflogwyr mwyaf fe geir: Coleg Prifysgol Dewi Sant yn Llanbed; cwmni bwydydd 'Organigs Llanbed'; 'LAS' (cwmni ailgylchu gwastraff); nifer o ffatr茂oedd bach yn cynnwys swyddfa Golwg ar y stad ddiwydiannol yn y dre'; cwmni cigoedd 'Oriel Jones' yn Llanybydder a gwaith trin coed a marchnata T.L.Thomas yn Llanllwni.

T诺r y Dderi

I ymwelydd 芒'r ardal mae na rywbeth yn dal y llygad ar bob hewl. Wrth deithio o Dregaron trwy Langybi fe saif T诺r y Dderi ar fryn ar y llaw dde. Adeiladwyd fel math o symbol o statws ar dir 'Inglis Jones' i roi gwaith i bobl leol, neu i weld Llundain fel y cawsom fel plant ein dysgu! Elizabeth Inglis Jones oedd awdur y gwaith hanesyddol ar blas yr Hafod Peacocks in Paradise'.

O Lanbed i Aberaeron, yr adeilad sy'n dal eich sylw yw Plasty Glynhebog neu'r Falcondale - cyn gartre teulu'r Harford, a fu'n gefnogol iawn i dre Llanbed; gwesty safonol yw erbyn heddiw.

O Lanbed i Gastell Newydd Emlyn, heibio i'r meysydd lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984, saif adfeilion 'Ffynnonbedr'. Adfeilion sydd yn llawn hanes ac a groniclwyd yn llawn gan 'Bethan Phillips' yn ei llyfr Peterwell -The History of a Mansion and its Infamous Squire. (Gwasg Gomer).

Tafarn y Ram, Cwman

Wrth deithio o Lanbed am Landeilo, saif 'Tafarn y Ram'; daeth i dipyn o enwogrwydd am fod 芒'r cwrw gorau yng Nghymru, a bod yr Arlywydd Carter wedi ciniawa yno beth amser yn 么l.

Ar y dde saif mast teledu Pencarreg a dargedwyd fwy nac unwaith ym mrwydr yr iaith. Ar yr hewl droellog o Cwmann am Lanybydder mae Llyn Pencarreg a phlasty Cilyblaidd, cartref y diweddar Miss Molly Phillips a fu'n feirniad Olympaidd ar sglefrio i芒. Heb fod nepell mae cartref y gwleidydd Gwynfor Evans a'i briod.

Wrth fynd o Llanybydder am Gaerfyrddin ar y llaw dde, gwelir Plas y Dolau neu Highmead, cartref teulu y Bnr. Herbert Evans a'i briod Ann Goch, - Ann oedd un o arweinyddion y datblygiad mawr ym myd ffermio yn y cyfnod cyn diwedd yr 1800. Bu'r plas yn gartref i fyddin Americanaidd yn ystod yr ail ryfel byd, yna'n ysgol breswyl, a heddiw yn ganolfan i Fwslemiaid.

O Lanybydder, dros y mynydd am Landeilo, fe welwn Allt y Mynydd. Adeilad a fu'n ysbyty yn arbenigo ar wella clefyd yr ysgyfaint, sef T.B, ond sydd erbyn heddiw yn gartref i'r henoed. Ymysg y beirdd cenedlaethol mae: Cledlyn (1875 - 1964) athro a llenor o Cwrtnewydd enillodd y gadair yng Nghorwen yn 1919 a'r Wyddgrug yn 1923; y Parchedig T Eurig Davies enillodd ddwy goron, un yng Aberafan yn 1932 a'r llall yn Nghastell Nedd yn 1934; a Dylan Iorwerth, bardd coronog Llanelli 2000 - rheolwr-gyfarwyddwr Golwg a cholofnydd rheolaidd yn y papur bro lleol, Clonc.

Enwogion y fro

Plac Idwal Jones

Ym myd llenyddiaeth daeth Islwyn Ffowc Ellis i ddarlithio i'r Brifysgol yn Llanbed ac ymsefydlodd yn yr ardal. Yn Llanbed hefyd y magwyd Idwal Jones a gofir am ei gerddi digri a'i ddwy ddrama fawr Pobl yr Ymylon ac Yr Anfarwol Ifan Harris.

Ymysg gweinidogion nodedig mae Jacob Davies fu'n weinidog dros Alltyblaca, Capel y Bryn, Cwrtnewydd a Chapel y Cwm, Cwmsychbant; T. Eurig Davies a fu a gofal Capel Soar Llanbed a Bethel Parcyrhos o 1927 hyd 1951. Roedd yn brifardd, yn ysgolhaig ac yn heddychwr. Cyfrannodd y Parchedig T. Oswald Williams yn helaeth i fywyd crefyddol ac i lywodraeth leol yng Ngheredigion.

Yn y fro hon y magwyd John Gwenogfryn Evans, 1852 - 1930. Casglodd ac argraffodd gop茂au o'n prif lawysgrifau Cymraeg o'r Oesoedd Canol. (Y Mabinogion o Lyfr Coch Hergest oedd y cyntaf). Bu'n gyfrifol am sicrhau llawysgrifau Peniarth i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth; dyma yn 么l Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru oedd y casgliad unigol pwysicaf o ddeunydd o'i fath, yn cynnwys dros 500 o lawysgrifau Cymraeg.

Ym myd gwyddoniaeth mae Evan James Williams (Desin) 1903 - 1945, yn un o enwogion y fro. Dyma ym marn llawer oedd un o ffisegwyr blaenaf ei gyfnod. Ganwyd yng Nghwmsychbant, addysgwyd yn ysgol gynradd Llanwenog ac ysgol Ramadeg Llandysul. Dywedwyd amdano fod ei ddarganfyddiadau a'i wybodaeth arbennig wedi bod yn gyfrwng i Brydain Fawr fyrhau cwrs yr ail ryfel byd.

Ceir mwy o hanes cewri o'r ardal gan gynnwys John R Evans, Aneurin Jenkins Jones, a Griffith John Williams a'i frawd Mathew Williams, mewn cyfrol a gyhoeddwyd dan olygyddiaeth D.J. Goronwy Evans, sef Deri O'n Daear Ni (Gwasg Gomer), adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddoc芒d yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.